Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy (CSF) ddiwrnod ymwybyddiaeth o lanhau baw cŵn ar ddydd Iau, 25ain Gorffennaf 2024, i atgyfnerthu’r neges i gerddwyr a pherchnogion cŵn i godi baw eu cŵn ar ôl i’r cŵn faeddu.
Mae hyn yn rhan o’r gwaith cydweithredol gyda Chynghorau Tref a Chymuned drwy’r prosiect Rhoi’r Cerdyn Coch i Gŵn yn Baeddu, sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd.
Roedd ffocws y diwrnod yn ne’r sir, lle bu swyddogion yn trafod pryderon parhaus ynghylch cŵn baeddu gyda cherddwyr cŵn. Canolbwyntiwyd ar y mannau gwaethaf yng Nghas-gwent – Glan yr Afon a Bulwark, Rogiet – ger yr Ysgol Gynradd, y caeau chwarae, y Parc Gwledig, a Dolydd Caerwent.
Roedd hwn hefyd yn gyfle i swyddogion godi ymwybyddiaeth o Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2024 (Rheoli Cŵn) CSF a ddaeth i rym ar 1af Mehefin 2024.
Sefydlodd y GDMC bum darpariaeth i fynd i’r afael â baw cŵn a materion cysylltiedig sy’n effeithio ar y defnydd a’r mwynhad o fannau cyhoeddus yn y sir. Mae’n drosedd i dorri unrhyw un o’r cyfyngiadau hyn:
- CŴN YN BAEDDU:
Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gi lanhau os yw’r ci yn baeddu mewn unrhyw fan cyhoeddus yn y sir. - BAGIAU CŴN:
Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gi, mewn unrhyw fan cyhoeddus yn y sir, gael dull priodol (e.e. bag baw ci) i godi unrhyw faw a adawyd gan y ci hwnnw a dangos bod ganddo/ganddi fag(iau) os gofynnir iddo/iddi wneud hynny gan swyddog awdurdodedig
- CŴN AR DENNYN:
Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd â gofal ci, mewn unrhyw fan cyhoeddus yn y sir, roi’r ci ar dennyn nad yw’n hwy na dau fetr o hyd pan gaiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig, pan ystyrir bod y ci y tu hwnt i reolaeth neu’n achosi braw neu drallod neu er mwyn atal niwsans.
- ARDALOEDD CŴN AR DENNYN:
Yn creu mannau cyhoeddus penodol, a nodwyd drwy ymgynghori, lle mae angen cadw ci ar dennyn heb fod yn fwy na dau fetr o hyd. Mae 20 wedi’u rhestru yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, ac fe’u nodir gan gynlluniau lleoliad
- ARDALOEDD GWAHARDD CŴN:
Yn creu mannau cyhoeddus penodol lle mae cŵn yn cael eu gwahardd. Mae 180 wedi’u rhestru yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a chânt eu nodi gan gynlluniau lleoliad. Mae’r rhain wedi’u nodi drwy ymgynghoriad fel rhai sydd angen amddiffyniad pellach rhag baw cŵn oherwydd y defnydd a wneir ohonynt yn yr ardal. Mae’r rhain yn bennaf yn gaeau chwaraeon wedi’u marcio, mannau chwarae i blant, tiroedd ysgolion a chanolfannau hamdden.
Mae manylion llawn y GDMC i’w gweld yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/gorchymyn-diogelu-mannau-cyhoeddus-rheoli-cwn-cyngor-sir-fynwy-2024/.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles, “Rydym mor ffodus i gael y mannau cyhoeddus anhygoel sydd ar gael i ni yn Sir Fynwy, sydd mor ddeniadol i’n trigolion, busnesau a thwristiaid. Mae’r mannau hyn yn cefnogi perchnogaeth cŵn da ac mae’n amlwg bod y mwyafrif llethol ohonom yn codi’r baw os yw ein cŵn yn baeddu. Ond mae hyn dal yn broblem mewn rhai ardaloedd. Felly, ewch ati i wneud y peth cywir a chasglu’r baw cŵn a’i osod yn y bin a byddwch yn ymwybodol o’r ardaloedd yn y sir lle y mae angen cadw cŵn ar dennyn neu mae cŵn wedi eu gwahardd.”