Skip to Main Content

Ar ddydd Llun, 29ain Gorffennaf, daeth Cyngor Sir Fynwy ynghyd i ddathlu ac anrhydeddu’r cyfoeth diwylliannol a ddaeth yn sgil cenhedlaeth Windrush.

Roedd y digwyddiad yn ddathliad bywiog o gerddoriaeth, bwyd, traddodiadau ac arferion y genhedlaeth Windrush, sydd wedi helpu i lunio cymdeithas amrywiol a bywiog Sir Fynwy.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys darlleniad teimladwy o gerdd gan yr hanesydd brwd 12 mlwydd oed, Holly Asante, sy’n uniaethu â balchder fel Prydeiniwr â threftadaeth Ghana. Roedd hefyd yn cynnwys areithiau gan Edward Watts MBE DL, Dirprwy Raglaw a Chadeirydd CMGG a Chomisiynwyr Harbwr Casnewydd, Marilyn Bryan-Jones, Cadeirydd Caribbean Heritage Cymru, a’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Nicholas McLain o Heddlu Gwent.

Rhoddodd yr holl siaradwyr gwadd gipolwg ysbrydoledig ar hanes a phwysigrwydd y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sydd bellach wedi’i ymwreiddio mewn bywyd bob dydd.

Clywodd gwesteion hefyd gan swyddogion Cyngor Sir Fynwy am y gwaith sy’n cael ei wneud yn amgueddfeydd Treftadaeth MonLife ac arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby.

Dywedodd y Cynghorydd Brocklesby, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n wych gallu agor drysau Neuadd y Sir i’n cymuned unwaith eto. Mae Neuadd y Sir nid yn unig yn adeilad ar gyfer aelodau a swyddogion y Cyngor ond hefyd i’n holl drigolion. Mae’r genhedlaeth Windrush wedi cyfoethogi ein diwylliant yn Sir Fynwy,

Cymru, a’r Deyrnas Unedig. Rydym yn ddiolchgar i’r holl siaradwyr gwadd a’r rhai a fynychodd i’n helpu i ddathlu hyn fel Cyngor ac rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Drwy wrando at ein cymunedau, gallwn weithio ar ffyrdd o wneud Sir Fynwy hyd yn oed yn fwy cynhwysol nag y mae eisoes.

I goffau’r achlysur hwn, plannodd y Cynghorydd Brocklesby a’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, goeden olewydd a gosod plac er cof am Stephen Lawrence, yn symbol o ymroddiad y Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gymuned.

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant o fewn ein cymuned. Yn gynharach eleni, gwnaethom lansio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 – 2028 newydd i amlinellu ein hamcanion a’n camau gweithredu ymrwymedig dros y pedair blynedd nesaf. Os oes gennych ddiddordeb, gallwch ddarllen ein Cynllun Strategol yma: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth-a-deddf-cydraddoldeb-2010/

Tags: ,