Skip to Main Content

Mae arddangosfa ‘Beth Sy’n Gwneud Mynwy, Trefynwy’ bellach yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy. Fel rhan o daith yr arddangosfeydd o amgylch Trefynwy, gall trigolion ac ymwelwyr nawr weld y casgliad yn y Ganolfan Hamdden dros wyliau haf yr ysgol.

Bydd yr arddangosfa yn teithio o amgylch lleoliadau cymunedol gwahanol yn Nhrefynwy tan fis Mawrth 2025.

Gellir gweld arddangosfa bartner hefyd yn Neuadd y Sir, Trefynwy tan 31 Mawrth, 2025.

Mae’r arddangosfa’n rhan o brosiect ‘Casgliadau Deinamig: Agor y Blwch’ Gwasanaethau Amgueddfa, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Gwahoddwyd trigolion o gymunedau lleol gwahanol i ‘agor y blwch’ i gasgliad amgueddfa Neuadd y Sir. Roeddynt wedi dewis gwrthrychau yr oeddynt yn meddwl sy’n dweud stori Trefynwy iddyn nhw a rhoi eu straeon personol sy’n cael eu harddangos yn arddangosfa ‘Be’ sy’n gwneud Trefynwy fel y dref yw hi’. Mae’r arddangosfa’n cynnwys llawer o wrthrychau, ffotograffau a phaentiadau nad ydynt erioed wedi’u harddangos o’r blaen, gan ein cysylltu â’n hanes a’n diwylliant lleol cyfoethog.

Church Street embroidery, 2006 – will form part of the display

Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd yn y Ganolfan Hamdden a Neuadd y Sir yr haf hwn, bydd swyddogion Amgueddfa MonLife hefyd yn cynnal gweithgareddau crefft teulu am ddim. Mae’r gweithgareddau ar gael i bob oed, ac felly gwnewch hwn yn haf o ddarganfod a galwch draw i gymryd rhan. Darganfyddwch fwy yma: https://www.monlife.co.uk/cy/events/

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rhoddwyr i’r amgueddfeydd, a’n gwirfoddolwyr am wneud y prosiect a’r arddangosfa hon yn bosibl. Mae arddangos hanes helaeth ein trefi yn yn hanfodol bwysig. Mae gwaith ein tîm, ynghyd â gwirfoddolwyr, yn dyst gwirioneddol i’w hymrwymiad i gadw hanes lleol yn fyw.

Mae arddangosfa Neuadd y Sir ar agor bob dydd rhwng 11am a 4pm ac eithrio dydd Mercher a dydd Sul (mae ar agor ar ddydd Sul yn ystod gwyliau haf yr ysgol). Gellir gweld yr arddangosfa deithiol unrhyw bryd yn ystod oriau agored yn Llyfrgell Trefynwy a Hwb, ac ar ôl hynny yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy. Mae mynediad am ddim.

Dysgwch fwy am arddangosfeydd yn Nhrefynwy yma: https://www.monlifecollections.co.uk/projectau/beth-syn-gwneud-trefynwy-fel-y-dref-yw-hi/?lang=cy

Os byddai gan unrhyw leoliadau ddiddordeb mewn cynnal yr arddangosfa deithiol, cysylltwch â carolinehaines@monmouthshire.gov.uk

Tags: , , ,