Skip to Main Content

Mae darn o dir a oedd unwaith wedi’i esgeuluso yn TogetherWORKS yng Nghil-y-coed wedi blodeuo’n ardd gymunedol fywiog, a hynny diolch i ymdrechion diflino gwirfoddolwyr ymroddedig.

 Mae gwelyau blodau a lleiniau llysiau llewyrchus bellach yn harddu’r hafan werdd hon, gan wahodd pawb i ddod yno, eistedd a mwynhau.

 Mae Gardd Gymunedol Cil-y-coed yn fwy na’n lle i dyfu planhigion. Mae’n ganolbwynt ar gyfer cysylltiad cymunedol.

 Mae ymwelwyr yn cael eu gwahodd i sipian coffi ymhlith y blodau lliwgar, tra bod grwpiau cymunedol a phobl sy’n cerdded heibio yn cael cysur yn y werddon dawel hon. P’un ai ydych yn chwilio am dawelwch neu am le i flasu’ch cinio, mae’r ardd yn croesawu pawb.

 I anrhydeddu llwyddiannau’r gwirfoddolwyr ymroddedig, gwahoddodd TogetherWORKS ffrindiau i Barti ar 18fed Gorffennaf. I agor yr ardd yn swyddogol i’r gymuned, cafwyd gwledd gymunedol a cherddoriaeth fyw gan Shifty Pop, Ceri & Lena, Yulia Shokolenko a The Tudor Syndicate.

 Mae TogetherWORKS yn gweithio yn bartneriaeth rhwng Tîm Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy a GAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent) ac mae’n Hyb di-elw a arweinir gan y gymuned.

TogetherWorks Volunteers

 Mae’n cynnig llu o weithgareddau a grwpiau, yn seiliedig ar angen lleol, i leihau arwahanrwydd ac unigrwydd, gan annog pobl i ddod i rannu sgiliau a gwybodaeth. Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 Os hoffech chi ddarganfod mwy am TogetherWORKS a Phrosiectau Cymunedol eraill yn Sir Fynwy, ewch imonmouthshire.gov.uk/community or facebook.com/togetherworks.caldicot

 I edrych ar brosiectau eraill a ariennir gan y GFfH (Cronfa Ffyniant Gyffredin) yn Sir Fynwy, ewch i  www.monmouthshire.gov.uk/uk-shared-prosperity-fund-spf/

Tags: , , ,