Skip to Main Content

Mae Wythnos Natur Cymru yn ddathliad blynyddol o fyd natur gan arddangos cynefinoedd a rhywogaethau gwych Cymru.

Mae llawer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru neu gallwch fynd allan i werthfawrogi natur ar eich carreg drws. Gallai fod yn ddechrau cysylltiad oes.

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn brysur yn gweithio ar draws Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen, gan gynnal gweithdai ysgol, plannu coed a chysylltu grwpiau cymunedol â’r bywyd gwyllt gwych sydd gennym yng Ngwent.

Dechreuodd y PGGG Wythnos Natur Cymru gyda chlec ddydd Sadwrn gyda ‘Mynd yn Wyllt’ ym Mharc Pont-y-pŵl.

Bydd y tîm yn Sioe Machen a Gŵyl Maendy ar 6ed Gorffennaf. Gallwch hefyd ymuno â’r tîm yn ddiweddarach yn yr haf yn Sioe Bedwellte a Sioe Trefynwy ar 17eg a’r 18fed Awst.

Mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle i werthfawrogi a mwynhau’r byd natur o’n cwmpas. Mae ein parciau a’n mannau gwyrdd ledled Gwent yn torheulo yn heulwen yr haf ac yn edrych yn llawn peillwyr a phlanhigion diolch i’n dolydd Natur Wyllt.

Beth am fod yn rhan o Nid yw Natur yn Daclus a dod yn ddinesydd wyddonydd am brynhawn drwy gymryd rhan yn ein prosiect ‘Wildflower Watch’newydd. Mae’n arolwg ar-lein 10 munud syml sy’n monitro blodau gwyllt yn ein mannau gwyrdd, a’n helpu ni ddeall yn well sut rydym yn creu cynefinoedd peillwyr llawn blodau gwyllt.

Gallech hefyd aros ger ein murlun natur newydd ym Mharc Bailey, Y Fenni, sydd wedi’i beintio gan yr artist lleol Danielle Farrington ac sy’n dathlu bioamrywiaeth gyfoethog yr ardal. Ewch i wefan Wythnos Natur Cymru  i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Tags: , ,