Skip to Main Content

Mae’r Cyngor yn gofyn am eich adborth ar newidiadau posibl i’n Polisi Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol i sefydlu model cludiant mwy cynaliadwy yn ariannol ar gyfer y dyfodol.

Rhwng 12 Gorffennaf a’r 23 Awst, gallwch roi adborth i ni ar dri opsiwn sy’n cael eu hystyried fel rhan o’n proses i ddiweddaru’r Polisi Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol.

Os cytunir arnynt, caiff y newidiadau eu rhoi ar waith o fis Medi 2025.

Mae polisi presennol y Cyngor yn rhagori ar y gofynion statudol, ac felly rydym yn ceisio cysoni ein darpariaeth yn nes at ein dyletswyddau deddfwriaethol a rhai Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru. Gyda chost darparu gwasanaethau cludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn cynyddu’n flynyddol, rhaid i Gyngor Sir Fynwy ystyried a ddylid parhau i ragori ar y gofynion statudol cenedlaethol.

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr 2008 yn gosod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol i ddysgwyr cymwys. Gall Awdurdodau Lleol hefyd ddarparu trefniadau trafnidiaeth ychwanegol. Gelwir y rhain yn drefniadau dewisol. Mae angen i’r Cyngor nawr ystyried a all barhau i fforddio darparu trafnidiaeth ddewisol.

Mae’r Cyngor yn ceisio adborth gan ddefnyddwyr a thrigolion ar dri opsiwn. Maent yn cynnwys:

  • Cael gwared ar gludiant i bob dysgwr sydd â llwybr cerdded diogel ac sy’n byw o fewn y pellteroedd statudol o ddwy filltir i’w hysgol gynradd addas agosaf (4-11 oed).
  • Cael gwared ar gludiant i bob dysgwr sydd â llwybr cerdded diogel ac sy’n byw o fewn y pellteroedd statudol o dair milltir i’w hysgol uwchradd addas agosaf (11-16 oed).
  • Mewn achosion lle nad yw’r Cyngor yn gallu trefnu gweithredwr allanol, neu os mai dyma’r opsiwn ariannol gorau, bydd rhieni’n cael cynnig cyllideb cludiant personol i gludo eu plant i’r ysgol ac adref. Bydd y cynnig hwn yn berthnasol i bawb, gan gynnwys dysgwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Rydym yn croesawu eich adborth ac yn annog y rhai a allai gael eu heffeithio gan yr opsiynau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eich barn.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Sir Fynwy: “Fel cyngor, rydym yn ceisio eich barn ar newidiadau sy’n cael eu hystyried i’n Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol. Bydd yr opsiynau’n caniatáu i’r Cyngor ddarparu gwasanaeth mwy cynaliadwy. Yn flynyddol, mae cost y gwasanaeth yn cynyddu, ac oherwydd y rhagolygon ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, mae angen i ni ystyried sut yr ydym yn darparu ein gwasanaeth ac rwyf yn annog pawb a allai gael eu heffeithio i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich adborth.” I gymryd rhan yn yr arolwg ac i ddarganfod mwy am y tri opsiwn, ewch i: https://bit.ly/YmgynghoriadCartrefirYsgol

Tags: ,