Skip to Main Content

Mae’r Clwb Gwirfoddoli Teulu yn apelio am blant a’u teuluoedd i roi help llaw fel rhan o ddigwyddiad sydd ar y gweill yn y Fenni.

Mae’r Clwb Gwirfoddoli Teulu yn ei gwneud yn rhwydd i blant 0-9 oed a’r oedolion yn eu teuluoedd i helpu mewn achosion pwysig ar garreg eu drws – gan greu cymdeithas lle mae pob plentyn yn tyfu lan yn teimlo wedi cysylltu gyda’u cymuned leol ac yn deall y rôl gadarnhaol y gallant ei chwarae wrth helpu i newid materion sydd o bwys iddynt.

Y digwyddiad nesaf yng nghalendr y Clwb Gwirfoddoli Teulu yn y Fenni yw’r Didoli Cefn Llwyfan yng Nghanolfan Gelfyddydau Melville.

Bydd bore llawn hwyl ar gael wrth i wirfoddolwyr helpu Canolfan Gelfyddydau Melviille i drefnu eu hystafell gwisgoedd. Caiff blant gyfle unigryw i weld tu ôl i’r llenni, dysgu am y theatr a chael y gwaith pwysig iawn o drefnu’r holl wisgoedd gwych.

Mae Canolfan Melville yn lleoliad stiwdio ymylol a hyb celfyddydau cymunedol yn nhref hardd y Fenni.

Mae’r sesiwn yn fwyaf addas ar gyfer rhai 2+ oed ond mae croeso i fabanod mewn sling/bygi hefyd.

Lleoedd yn rhad ac am ddim, er bod y nifer yn gyfyngedig. Archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.

I gael mwy o wybodaeth, neu i archebu lle, ewch i familyvolunteeringclub.co.uk/abergavenny

Tags: ,