Skip to Main Content

Etholwyd Jane Mudd, cyn arewinydd Cyngor Dinas Casnewydd, yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu newydd Gwent.

Cafodd Ms Mudd, sy’n cynrychioli Plaid Lafur Cymru, 28,476 pleidlais.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Llafur yn cadw rol y Comisiynydd yng Ngwent.

Trechodd Ms Mudd gystadleuaeth gan dri ymgeisydd arall, Hannah Elizabeth Jarvis (Ceidwadwyr Cymreig), Mike Hamilton (Rhyddfrydwyr Democratiaidd Cymru) a Donna Cushing (Plaid Cymru|), a gafodd 21,919, 9,864 a 8,076 pleidlais yn eu tro. Cefnogodd pleidleiswyr ar draws Sir Fynwy eu hymgeiswyr gyda’r gyfran ddilynol o’r bleidlais:

Pleidlerisiodd 15.63% o’r etholwyr ar draws Gwent, sy’n gyfwerth a 69,124 pleidlais allan o etholwyr o 442,154.

Roedd canran y pleidleiswyr yn Sir Fynwy yn 21.2%.

Cafodd cyfanswm o 181 papur pleidleisio eu difetha yn Sir Fynwy.

Tags: