Skip to Main Content

Cytunodd Cyngor Sir Fynwy heddiw i roi cymhorthdal o 30% ar eu treth gyngor i’w gofalwyr maeth, i gydnabod y rôl amhrisiadwy y maent yn ei chyflawni wrth ofalu am rai o’n plant mwyaf agored i niwed yn ein sir. Mae gofalwyr maeth wedi dweud bod y buddion a’r cymorth mae’r cyngor yn eu cynnig yn bwysig iddyn nhw allu darparu’r gofal sydd ei angen, a bydd y cymhorthdal treth gyngor hwn yn ychwanegiad i’r gefnogaeth honno.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Ian Chandler, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae gofalwyr maeth yn Sir Fynwy yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant a phobl ifanc. Ni ellir dweud digon am ein gwerthfawrogiad o’r hyn y maent yn cynnig. Rydym bellach yn chwilio am fwy o bobl i helpu plant a phobl ifanc lleol i aros yn ein cymuned. Mae angen o leiaf 30 o deuluoedd maethu newydd ar Sir Fynwy i ddarparu cartrefi meithrin a chroesawgar i blant lleol. Rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd a phrofiad. Bydd dod yn ofalwr maeth i Gyngor Sir Fynwy yn golygu y byddwch yn dod yn rhan o’n cymuned faethu, ac mae’r cyngor yn falch iawn o allu darparu cymhorthdal treth gyngor i ofalwyr maeth fel rhan o’n pecyn o wobrwyon a buddion.”

Bydd tîm Maethu Cymru Sir Fynwy allan yn y gymuned, gan ledaenu’r gair am sut y gall preswylwyr wneud gwahaniaeth i fywydau plant neu bobl ifanc. Os ydych yn meddwl y gallech roi seibiant i blentyn, gofalu am blentyn tra bod ei riant yn mynd yn ôl ar ei draed, gofalu am faban nes ei fod yn mynd at rieni mabwysiadol, helpu person ifanc wrth iddo ddod yn annibynnol, neu ddarparu teulu tymor hir i blentyn, cysylltwch â ni – mae angen i ni glywed oddi wrthych. Ar hyn o bryd Pythefnos Gofal Maeth – ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau plant. Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob un o’n gofalwyr maeth yn cael y cymorth cywir fel bod y plant yn eu gofal yn gallu ffynnu.

Tags: