Skip to Main Content

Diweddariad 27/06/2024 – Estyniad Ymgynghoriad.

Mae’r ymgynghoriad wedi i’w ymestyn tan ddydd Gwener 19 Gorffennaf.

Gwahoddir trigolion i ddweud eu dweud ar gyswllt cerdded a beicio newydd arfaethedig rhwng Llan-ffwyst a Dolydd y Castell, Y Fenni.

Nod y cyswllt newydd yw gwella diogelwch a hygyrchedd ar gyfer cerdded, olwynio a beicio rhwng Llan-ffwyst a phont droed a beicio newydd Llan-ffwyst.

Er mwyn cyflawni hyn, mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) yn cynnig lledu’r droedffordd bresennol ar hyd ochr ddwyreiniol Ffordd Merthyr, gan greu neu wella cyfleusterau croesi ar draws Ffordd Merthyr a Ffordd Coopers, a gwella’r trefniant cyffordd presennol The Cutting a Ffordd Merthyr.

O’r fan honno, gall pobl barhau â’u taith trwy Dôl y Castell a Chaeau Ysbytty i Ganol Tref y Fenni a Gorsaf Reilffordd y Fenni.

Mae amcanion CSF ar gyfer y cynllun yn cynnwys:

  • Darparu llwybr diogel a phriodol i gerddwyr, beicwyr a’r rhai sydd â phroblemau symudedd rhwng Pont Droed a Beicio arfaethedig Llan-ffwyst ar draws yr Afon Wysg a Llan-ffwyst i’r de (ac i’r gwrthwyneb)
  • Gwneud dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy yn fwy deniadol, gan leihau’r pwyslais ar ddefnyddio ceir preifat.
  • Gwella cyfleusterau croesi priffyrdd ar gyfer y rhai â nam symudedd yn Llan-ffwyst.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd:

“Bydd Cysylltiadau Llan-ffwyst yn rhoi ffordd fwy diogel, mwy darbodus ac iachach i drigolion deithio rhwng y Fenni a Llan-ffwyst tra hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae eich barn yn bwysig; dyma’ch cyfle i roi adborth i ni.”

Mae CysylltiadauLlan-ffwyst yn rhan o Strategaeth Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy, sy’n canolbwyntio ar deithiau o dair milltir neu lai. Mae hyn yn golygu gwneud cerdded, olwynio a beicio yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau lleol drwy wella seilwaith cerdded a beicio i gysylltu pobl â chyrchfannau allweddol o fewn cymunedau. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru.

Mae Swyddogion Cyngor Sir Fynwy yn gweithio i gael gwared ar rwystrau i gerdded, olwynion a seiclo lle bynnag y bo modd. Yn dilyn ymgynghoriad ac adolygiad annibynnol, mae’r Cyngor wedi penderfynu peidio â defnyddio gridiau gwartheg mewn mannau mynediad i safle Dolydd y Castell. Yn lle hynny, bydd mynediad yn cael ei reoli, fel rhan o arbrawf, gan ddefnyddio gatiau hunan-gau i barhau i ganiatáu pori gan wartheg, sy’n rhan hanfodol o gynnal a gwella’r fioamrywiaeth, tra’n cynnal mynediad drwy’r safle.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i weithio gyda’r gymuned, rhanddeiliaid allweddol a Thrafnidiaeth Cymru i wella hygyrchedd a sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl sy’n gwneud teithiau cynaliadwy.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i ddweud eich dweud, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/y-fenni-cynllun-teithio-llesol-cysylltiad-y-bont-i-lan-ffwyst/

Bydd yr arolwg ar agor tan 28/06/2024. Dysgwch fwy am y Strategaeth Teithio Llesol yma: https://www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel/active-travel/

Tags: