Skip to Main Content

Roedd Gofalwyr Maeth yn Sir Fynwy yn westeion anrhydeddus mewn digwyddiad o werthfawrogiad yn ddiweddar, gan ddiolch iddynt am eu gwasanaeth.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i ofalwyr maeth Sir Fynwy ddod at ei gilydd a chaniatáu i ni ddiolch iddynt am yr holl waith anhygoel y maent yn ei wneud yn darparu cartrefi cariadus a meithringar i blant mewn gofal.

Roedd y digwyddiad yn un o’r digwyddiadau allweddol yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, a gynhaliwyd rhwng 13eg a’r 26ain Mai.

Nod ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu yw codi ymwybyddiaeth o’r angen am ofalwyr maeth a dangos sut mae maethu yn trawsnewid bywydau a chodi proffil maethu.

Mae bron i 200 o blant Sir Fynwy mewn gofal. Er bod y rhan fwyaf o’n plant sy’n derbyn gofal yn byw’n lleol gyda gofalwyr maeth cariadus, mae llawer yn byw ymhell i ffwrdd neu mewn cartrefi plant oherwydd nad oes digon o gartrefi gofalwyr maeth ar gael. 

Mae angen i ni recriwtio mwy na 30 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2027 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant lleol.

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn drwy gynnig cartref iddynt, neu os ydych chi eisiau dysgu mwy am faethu ar gyfer Sir Fynwy, cysylltwch â’n tîm heddiw.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gan bobl o bob cefndir gwahanol. Mae pobl a allai gynnig cartref i fabanod, brodyr a chwiorydd, plant ag anghenion ychwanegol, a phobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu hannog yn arbennig i gysylltu – fodd bynnag, beth bynnag y teimlwch y gallech ei gynnig, cysylltwch â ni am drafodaeth gychwynnol.

Drwy ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Fynwy, byddwch yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc lleol yn aros yn eu cymunedau, yn agos at y bobl a’r lleoedd sy’n bwysig iddynt. Gallwch gysylltu â’r tîm heddiw: https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/contact-us

Tags: , , ,