Skip to Main Content

Mae Cyngor Tref Cas-gwent, Cyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru wedi dod ynghyd i fuddsoddi mwy na £200,000 yn y Drill Hall, prif leoliad celfyddydol Cas-gwent.

Am y 15 mlynedd diwethaf mae Cyngor Tref Cas-gwent a Chyngor Sir Fynwy wedi gweithio gyda grŵp gwirfoddol hynod i ddatblygu’r cyfleuster yn Ganolfan Gelfyddydol a Chymunedol Cas-gwent gyda rhaglen fywiog o ffilm, drama, dawns a cherddoriaeth.

Defnyddir y Drill Hall yn helaeth hefyd gan gymdeithasau a sefydliadau, artistiaid ac ensembles lleol a chenedlaethol. At hyn, mae adeilad y Drill Hall yn gartref i Glwb Bocsio Cas-gwent, rhan bwysig o’r ddarpariaeth chwaraeon a lles yn y Dref.

Cyn y buddsoddiad hwn roedd y to yn gollwng ac roedd y lleoliad mewn perygl o gau, gan olygu colli ased cymunedol hanfodol. Gan gyfeirio arian o fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Fynwy wedi rhoi £100,000 tuag at ailosod y to. Rhoddodd Cyngor Tref Cas-gwent yr un swm, er mwyn sicrhau y gellid cyflawni’r prosiect hwn. Ariannwyd buddsoddiad sylweddol y Cyngor Tref gan drigolion Cas-gwent drwy braesept y dref. Bydd y paneli solar newydd ar y to hefyd yn ychwanegu at gynaliadwyedd yr adeilad amlwg hwn yng nghanol Cas-gwent.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Paul Griffiths “Rwy’n gweld y Drill Hall yn hanfodol o ran llwyddiant y dref yn y dyfodol. Trwy fuddsoddi yn y celfyddydau, mae pobl yn dod at ei gilydd ac yn gwella eu lles. Pan fydd pobl yn ymweld â’r Drill Hall, mae’r dref gyfan yn elwa o’r fasnach a ddaw yn sgil hynny ac mae hyn yn cefnogi ein heconomi leol. Rwy’n falch iawn bod y Cyngor Sir wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn a helpu i sicrhau dyfodol y Drill Hall.”

Dywed Maer Cas-gwent, y Cynghorydd Tudor Griffiths, “Rhoddodd y Cyngor Tref flaenoriaeth uchel i ddyfodol y Drill Hall pan gytunodd i gyfrannu at gost y prosiect hwn. Rydym yn cydnabod y cyfraniad y mae’r rhaglen gelfyddydol a redir gan wirfoddolwyr wedi’i wneud i’r dref ac roeddem yn benderfynol o sicrhau bod yr adeilad yn parhau i allu cynnal y rhaglen honno a pharhau i ddarparu lleoliad ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill”.

Meddai Michael Turner, Rheolwr Canolfan Gelfyddydol a Chymunedol y Drill Hall, “Gall pob un ohonom ddathlu’r lefel uchel hon o fuddsoddiad yn y celfyddydau yn y Drill Hall. Mae miloedd o bobl wedi mwynhau’r rhaglen gelfyddydol yn y lleoliad hwn ers blynyddoedd lawer. Mae gennym bellach y cyfrifoldeb o sicrhau bod mwy a mwy o

ddigwyddiadau yn denu pobl Cas-gwent a phobl yr holl ardaloedd cyfagos i gymryd mwy o ran byth yn y rhaglen. Gyda tho newydd uwch ein pennau, ein nod yw datblygu ein rhaglen ymhellach er mwyn cadarnhau mai’r Drill Hall yw’r prif ganolfan ar gyfer y celfyddydau yn rhanbarth Glannau Hafren yn Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y rhaglen gyfredol o weithgareddau sydd ar gael yn y Drill Hall, neu unrhyw un sydd eisiau archebu lle,gysylltu â Michael Turner arctcdrillhall@aol.comneu ar 07516 227725.