Skip to Main Content
Dweud eich barn

Have your say

A larger speech bubble made of smaller speech bubbles

Mae Cyngor Sir Fynwy am greu darpariaethau chwaraeon newydd yn ardal Magwyr gyda Gwndy.

Ar hyn o bryd, mae diffyg sylweddol yn y ddarpariaeth chwaraeon a hamdden awyr agored i wasanaethu maint poblogaeth Magwyr a Gwndy, a nodwyd hyn mewn Astudiaeth Mannau Agored a gynhaliwyd i lywio’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol ar gyfer Sir Fynwy.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig datblygu darn o dir sy’n eiddo i’r Cyngor yn Knollbury i fynd i’r afael â’r diffyg hwn, gan greu 4.42ha ychwanegol o ddarpariaeth chwaraeon awyr agored.

Rydym nawr yn chwilio am adborth ar y cynlluniau gan drigolion cyn cyflwyno’r cais cynllunio.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 9am, 29 Ebrill a 5pm, 27 Mai. Er mwyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhoi eich adborth, ewch i: https://forms.office.com/e/GdDZGhibNQ

Y cynnig yw creu darpariaethau newydd ar gyfer rygbi, criced a phêl-rwyd, gyda’r cyfleusterau i’w rhedeg gan glybiau gwirfoddol lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae hwn yn gyfle gwych i’r gymuned leol roi adborth ar y ddarpariaeth chwaraeon newydd arfaethedig yn yr ardal. Mae meysydd chwaraeon a hamdden yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles cymunedau lleol. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gyfleusterau yn ardal Magwyr gyda Gwndy.”

Tags: , , ,