Mae Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy wedi ennill gwobr ‘Nofio Ysgolion a Diogelwch yn y Dŵr’ yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024.
Yn dilyn y gwobrau a gynhaliwyd ar 20fed Ionawr, llwyddodd Adran Chwaraeon a Hamdden MonLife i ennill y wobr yn dilyn 2023 gwych. Nod y rhaglen yw sicrhau bod nofio mewn ysgolion yn hygyrch i gynifer o blant â phosibl ledled Sir Fynwy, cydweithrediad rhwng ysgolion a hamdden i ddarparu sgiliau bywyd hanfodol.
Yn 2023, roedd 100% o ysgolion Cynradd ac Uwchradd Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn rhaglen nofio MonLife. Daeth dros 3500 o blant i ddilyn Fframwaith Nofio Ysgol. Arweiniodd y rhaglen at gynnydd o 12.5% yn nifer y disgyblion a enillodd Wobr Nofio Ysgol ym mlwyddyn 6, gyda dros 62% o ddisgyblion yn cyflawni deilliannau’r cwricwlwm erbyn i’w cyfnod yn yr ysgol gynradd ddod i ben.
Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais mawr ar ddiogelwch yn y dŵr, ac yn ystod Wythnos Atal Boddi, cafodd pawb a fynychodd wers atal boddi bwrpasol. Ategwyd hyn ymhellach gan y sesiwn benodol am Ddiogelwch yn y Dŵr a roddwyd i’r sawl a fu’n cymryd rhan yn eu sesiwn gyntaf.
Mae’r rhaglen hefyd wedi galluogi myfyrwyr Academi Arweinyddiaeth MonLife i gael profiad o weithio mewn digwyddiadau chwaraeon. Yn nhymor yr haf 2023, bu myfyrwyr yr Academi Arweinyddiaeth yn cynorthwyo staff MonLife i gynnar pedair Gŵyl Nofio ar gyfer Ysgolion Cynradd. Roedd 345 o blant wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cynhwysol. Roedd gwyliau yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy yn caniatáu i ddisgyblion gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau hwyl heb orfod cystadlu, gan gynnwys fflotiau, strociau a rasys woggle.
Tags: MonLife, Monmouthshire, news, SwimmingDywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r wobr hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein Hadran Chwaraeon a Hamdden, hyfforddwyr nofio ac athrawon ysgol. Mae’n rhoi mynediad i ddysgwyr i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol iddynt fyw bywyd gweithgar a sgiliau a all achub bywydau. Llongyfarchiadau a diolch i’r holl staff sy’n cynnal ac yn cefnogi’r rhaglen.”