Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwneud newidiadau i gynigion y gyllideb ddrafft, gyda llawer ohonynt o ganlyniad i’r broses ymgynghori cyhoeddus lwyddiannus.

Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ymgynghori a gwrando fel y gallwn asesu’r hyn sydd bwysicaf i drigolion a rhanddeiliaid.

Fel enghraifft, drwy’r broses ymgynghori, daeth yn amlwg bod elfennau o’r cynigion Plant a Phobl Ifanc yn peri pryder mawr. Nawr, rydym wedi dod o hyd i ffordd o ddarparu cyllid ychwanegol i addysg ar gyfer y flwyddyn i ddod. O ganlyniad, ni fydd angen i ysgolion bellach wneud yr holl arbedion o ran costau a oedd yn y cynigion drafft.

Mae’r Cyngor hefyd wedi dileu’r cynnig i godi tâl am fagiau gwastraff bwyd.

Roedd cyflwr ein ffyrdd yn bryder arall a amlygwyd yn yr adborth, ac mae’r Cyngor wedi edrych ar ffyrdd o gynyddu’r gyllideb ar gyfer buddsoddi mewn priffyrdd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Mary Ann Brockelsby: “Mae’r mis diwethaf wedi dangos sut y gallwn ni fel Cyngor weithio gyda’n trigolion a rhanddeiliaid ar faterion a fydd yn effeithio arnynt. Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o gymaint o sgyrsiau a thrafodaethau ar yr hyn sy’n bwysig i bobl Sir Fynwy. Mae tîm y Cabinet, ynghyd â swyddogion, wedi myfyrio ar yr hyn a drafodwyd ac wedi gwneud newidiadau i’r cynigion drafft lle bo modd.

“Hoffwn ddiolch i’r holl drigolion a rhanddeiliaid am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Ychwanegodd y Cynghorydd Ben Callard, Aelod Cabinet dros Adnoddau Cyngor Sir Fynwy: “Bydd y newidiadau i’r gyllideb arfaethedig yn sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaethau y mae ein trigolion eu heisiau ac yn bwysicach fyth eu hangen.”

Bydd y gyllideb arfaethedig yn cael ei gosod a bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi, a fydd yn cael ei drafod yn y Cabinet ar 28ain Chwefror ac yna yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ar 29ain Chwefror.

Gellir gweld agenda’r Cabinet ar gyfer 28ain Chwefror yma:
https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=5406

Tags: , ,