Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datgelu mai ychydig llai na £200 miliwn fydd ar gael i’w wario ar wasanaethau yn y flwyddyn i ddod.
Wrth gyhoeddi manylion proses y gyllideb nôl ym mis Tachwedd 2023, amlygwyd pwysau ychwanegol o ran costau o £21.5 miliwn, a arweiniodd at fwlch cychwynnol heb ei ariannu yn y gyllideb o £14.4 miliwn.
Roedd y gagendor hwn yn cyfrif am bwysau gwariant anochel fel dyfarniadau cyflog, chwyddiant, costau benthyca, digartrefedd, cludiant o’r cartref i’r ysgol ac anghenion gofal cymdeithasol oedolion a phlant. Cyfrannodd y setliad blynyddol gan Lywodraeth Cymru £2.7 miliwn at hyn. Bydd cynigion i fynd i’r afael â’r £18.1 miliwn sy’n weddill yn cael eu hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 17eg Ionawr.
Ar lefel gyffredinol, dibynnir ar newidiadau gwasanaeth/effeithlonrwydd i gyfrannu £8.5 miliwn, codiadau mewn taliadau gwasanaeth yn cyfrannu £0.8 miliwn, newidiadau i’r ffordd y rheolir dyled yn arbed £1.8 miliwn a gostyngiad pellach mewn costau ynni o £1.6 miliwn. Mae’r bwlch sy’n weddill o tua £5.4 miliwn i’w lenwi drwy gynyddu’r dreth gyngor o 7.5%.
Dywedodd y Cynghorydd Ben Callard, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Nid yw hon yn broses hawdd. Mae’r her ariannol yn sylweddol, ac i fynd i’r afael â hyn, mae’n rhaid i ni feddwl am strategaeth gytbwys sy’n cynnwys newid gwasanaethau, creu incwm ac ystyried yr arian a ddaw o drethi. Rydym yn glir bod y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor yn bwysig. Er y bydd newidiadau o dan ein cynigion, ni fydd llawer yn sylwi ar unrhyw newid i wasanaethau’r Cyngor. Bydd y gwasanaeth casglu biniau yn aros yr un fath a bydd canolfannau hamdden, canolfannau ailgylchu a’r hybiau i gyd ar agor. Rydym yn cynnig cynyddu cyllid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol o 5.8% a 2.5% ar gyfer addysg. Hoffem iddo fod yn uwch, ond nid yw’r realiti ariannol yn caniatáu hyn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Callard: “Yn anffodus, rydym yn bwriadu cynyddu’r dreth gyngor o 7.5% ar gyfartaledd er mwyn ymdopi â’r pwysau aruthrol ar eich gwasanaethau. Hoffem gynnig sicrwydd y byddwn yn parhau i ariannu cynllun i ostwng y dreth gyngor yn llawn i gefnogi’r rhai sydd angen yr help mwyaf i dalu’r dreth gyngor.”
Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid a’n cefnogi ein cymunedau, gan ddarparu cyngor a chymorth ymarferol i’r rhai sy’n cael eu taro waethaf gan yr Argyfwng Costau Byw – fel oergelloedd cymunedol, cymorth iechyd meddwl, tai a chyngor ar les.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Mary Ann Brocklesby: “Mae gosod cyllideb yn golygu gwneud dewisiadau ynglŷn â sut mae’r arian yn cael ei wario. Eleni, mae ein dewisiadau yn anodd iawn: ni fydd ein cyllid yn medru talu am yr holl wasanaethau a ddarparwn yn eu ffurf bresennol.
“Ein dewis absoliwt ar gyfer y cynigion rydyn ni’n eu cyflwyno i chi yw amddiffyn a chynnal ein gwasanaethau nawr ac i’r dyfodol.
“Rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n disgwyl i ni fod yn deg, i seilio ein dewisiadau ar ddiogelu’r unigolion mwyaf bregus a’r amgylchedd sy’n gynyddol fregus, tra’n sicrhau’r gwerth gorau am arian bob amser.” I gael rhagor o wybodaeth am gyllideb Cyngor Sir Fynwy ar gyfer 2024/25, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyllideb-2024-2025/
Tags: Budget, Monmouthshire