Ar ddydd Mawrth, 30ain Ionawr, bydd grwpiau cymunedol, elusennau, sefydliadau a gwasanaethau yn cynnal digwyddiad arddangos ar ffurf marchnad yn Hyb Cymunedol Magwyr a Gwndy. Dewch draw i ddysgu mwy am weithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd gwirfoddoli ar draws Sir Fynwy.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 13:30 a 17:00 a bydd yn rhoi cyfle i drigolion ddarganfod mwy am wasanaethau a sefydliadau yn eu cymuned.
Mae rhai o’r sefydliadau, gwasanaethau a grwpiau yn y digwyddiad yn cynnwys Prosiectau Elusennol Bridges, Communities for Work Plus (Cyngor Sir Fynwy), Oergell Gymunedol Magwyr a Gwndy, CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru), a Chymdeithas Alzheimer.
Dewch i brofi awyrgylch arddull marchnad lle y bydd grwpiau a gwasanaethau cymunedol lleol yn arddangos y gefnogaeth sydd ar gael a’r gweithgareddau a gynigir yn y gymuned. Hefyd, bydd gweithdai Gwneud Cawl Nwdls gan y Preservation Society, Gweithdy Atgofion gan Amgueddfeydd Sir Fynwy, Gwella Mannau Gwyrdd Bach gan Cadwch Gymru’n Daclus a phanel o arbenigwyr yn trafod Ariannu yng Nghymru.
Mae hwn yn gyfle gwych i gysylltu â sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau, darganfod cyfleoedd gwirfoddoli cyffrous, archwilio hobïau newydd, a cheisio cymorth gyda phrosiectau parhaus.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gysylltiad a Chydraddoldeb Cyngor Sir Fynwy: “Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion ddarganfod mwy am y gwasanaethau a’r sefydliadau sydd ar gael ar garreg eu drws. Os gallwch chi alw draw am y digwyddiad cyfan neu dim ond am awr, bydd yn wych eich gweld.”
Cllr Angela Sandles
Mae’r digwyddiad yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac yn cael ei drefnu gan Gyngor Sir Fynwy, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a Chymdeithas Tai Sir Fynwy.
Dyddiad ac amser:
Dydd Mawrth 30 Ionawr 2024 13:30 – 17:00 (1:30pm – 5:00pm).
Lleoliad:
Hyb Cymunedol Magwyr a Gwndy (Yr Hyb), Prif Heol, Gwndy NP26 3GD.
https://maps.app.goo.gl/Phb1855odKjfuNHc7
> Cliciwch i weld rhestr o fudiadau cymunedol a grwpiau yn y digwyddiad >
Propsiectau Elusen Bridges
Elusen yn Sir Fynwy sy’n cynnig nifer o wasanaethau allgymorth yn cynnwys gwasanaeth cyfeillio, cynllun car cymunedol, prosiectau cynhwysiant ar gyfer plant ac oedolion gydag anghenion ychwanegol, grwpiau gweithgaredd cymdeithasol a phrosiect gwirfoddoli.
?Cyswllt: marianne.piper@bridgescentre.org.uk
Ready Steady GO
Elusen sy’n cefnogi plant a phobl ifanc awtistig a’u teuluoedd,
?Cyswllt: admin@readysteadygoclun.co.uk
Cynghorwyr Dwyain Magwyr a Gwndy
Ar gael i ateb cwestiynau am faterion lleol gan breswylwyr,
?Cyswllt: angelasandles@monmouthshire.gov.uk, jogncrook@monmouthshire.gov.uk
Siopau Amlddefnyddio Sir Fynwy
Wedi eu lleoli yng nghanolfannau ailgylchu cartrefi Five Lanes a Llan-ffwyst, maent yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i achub eitemau o’r sgipiau a gwerthu yn y siop ar ddyddiau Mercher, gydag elw yn mynd i blannu coed.
?Cyswllt: rebeccablount@monmouthshire.gov.uk
Syrcas Gymunedol Cas-gwent
Grŵp ar gyfer pobl i ymarfer a rhannu sgiliau syrcas, hefyd yn darparu gweithdai ar gyfer grwpiau eraill.
?Cyswllt: chepstowcircus@gmail.com
Croeso i Gerddwyr Cas-gwent
Grŵp cymunedol gwirfoddol fu’n gweithio i ennill achrediad i Gas-gwent ddod yn rhan o drefi Rhwydwaith Cenedlaethol Croeso i Gerddwyr yn 2012. Mae’n annog pobl i fynd tu fas a mwynhau’r awyr agored drwy gerdded i wella iechyd a llesiant a denu ymwelwyr i’r ardal i gefnogi’r economi lleol.
?Cyswllt: chepstowwaw@hotmail.co.uk
Lads Lunch
Clwb cinio wythnosol ar gyfer dynion yn Bulwark, yn cynnig pryd twym am ddim a chyfle i ddynion gysylltu â gwneud ffrindiau mewn man croesawgar a thwym. Mae hefyd yn cynnig gofod swyddfa i fudiadau eraill yn ystod oriau agor.
?Cyswllt: communitykitchen@thebridgechurch.online
Mind Sir Fynwy
Darparu iechyd meddwl ar gyfer oedolion..
?Cyswllt: stephanie.thomas@mindmonmouthshire.org.uk
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent
Darparu Dewis Cymru, cyfeiriadur ar-lein ar gyfer adnoddau llesiant.
?Cyswllt: ellys.perry@torfaen.gov.uk
Cymdeithas Hanes Lleol Cil-y-coed a’r Cylch
Cynnal sgyrsiau ac ymweliadau achlysurol yn gysylltiedig â hanes lleol.
?Cyswllt: caldicothistorysociety@yahoo.co.uk
Usk Together for the Climate
Rhwydwaith o breswylwyr lleol yn cydweithio i ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur drwy godi ymwybyddiaeth a gwybodaeth, gan gymryd camau ymarferol, datblygu prosiectau lleol, gweithio gyda mudiadau a chreu cymuned gefnogol.
?Cyswllt: togetherfortheclimateusk@gmail.com
Tîm Plismona Cymdogaeth Glannau Hafren
Darparu cefnogaeth a chyngor am atal troseddu.
Loteri Fawr Cymru
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhoi grantiau i fudiadau yn y Deyrnas Unedig i wella eu cymunedau. Gall ein cydlynydd lleol yn Sir Fynwy roi cyngor ar yr ystod cronfeydd sydd ar gael yn lleol a siarad gyda phrosiectau sy’n ystyried gwneud cais am gyllid.
?Cyswllt: Michael.Dupree@tnlcommunityfund.org.uk
Basecamp Cooperative
Darparu ystod o wasanaethau therapiwtig yn cynnwys cwnsela ar gyfer cymunedau cadarn.
?Cyswllt: projectmanagerbasecamp@protonmail.com
Cymunedau am Waith a Mwy
Cefnogi pobl yn mynd i waith, gan gynnig help gydag ysgrifennu CV, sgiliau a chyngor ar gyfweliadau, chwilio am swydd ac arweiniad ar wneud gwaith, cyrsiau achredig byr yn gysylltiedig â gwaith, cymorth ariannol i ostwng rhwystrau i waith, mentora ac adeiladu hyder a chysylltu gyda chyflogwyr lleol.
?Cyswllt: ameletukandra@monmouthshire.gov.uk
Adran Tiroedd a Glanhau Cyngor Sir Fynwy
Cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn y tîm tiroedd a glanhau i wneud Sir Fynwy yn fwy hardd a chyfeillgar i fywyd gwyllt, yn cynnwys pencampwyr sbwriel, Cyfeillion Mannau Gwyrdd a monitoriaid peillwyr.
?Cyswllt: susanparkinson@monmouthshire.gov.uk
Oergell Gymunedol Magwyr a Gwndy
Atal bwyd rhag cael ei daflu i domen lanw drwy gynnal oergell cymunedol lle gall pobl gael bwyd am ddim o fewn ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’.
?Cyswllt: magor.undy.cf@gmail.com
Pre-Loved Prom Wear
Helpu pobl na fyddai fel arfer yn medru mynychu eu prom ysgol oherwydd cost dillad prom, drwy ddarparu cyfraniadau o ddilliad prom gan gymunedau lleol. Hefyd yn darparu eco-ddatrysiad i atal taflu pethau i domen lanw a hyrwyddo gwerth hen ddillad neu ddillad ail-law.
?Cyswllt: melstirling37@hotmail.com
Gyda’nGILYDD Cil-y-coed
Hyb Llesiant Cymunedol yng nghanol Cil-y-coed. Cynigiwn ystod o wasanaethau llesiant, clybiau a grwpiau hobi.
?Cyswllt: isla.arendell@gavo.org.uk
Cadwch Cymru’n Daclus
Elusen yn cefnogi gweithredu gwirfoddol i wella’r amgylchedd lleol.
?Cyswllt: thomas.ward-jackson@keepwalestidy.cymru
Ffederasiwn Sefydliad y Merched Gwent
Y sefydliad mwyaf i fenywod ym Mhrydain, gyda 43 Sefydliad a thua 1,300 aelod yn Ffederasiwn Gwent. Mae’n cynnig cyfle i fenywod i wneud ffrindiau a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned, dysgu sgiliau newydd, crefftau, chwaraeon a llawer mwy mewn amgylchedd cymdeithasol, diogel a hamddenol.
?Cyswllt: https://gwent.thewi.org.uk/contact-us
Lions Cas-gwent a Chil-y-coed
Mudiad gwasanaeth cymunedol.
?Cyswllt: chepstowcaldicotlions@btinternet.com
Cymdeithas Alzheimer
Cefnogi pobl a’u gofalwyr y mae dementia yn effeithio arnynt.
?Cyswllt: chris.hodson@alzheimers.org.uk
Clwb Pêl-rwyd Phoenix (gynt Clwb Pêl-rwyd Magwyr a Gwndy)
Clwb pêl-rwyd cymunedol ar gyfer pob rhyw ac o 7 oed i fyny.
?Cyswllt: https://www.facebook.com/groups/1271178783374616/
GAVO
Nod Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent yw creu cymdeithas lle mae cymunedau, unigolion, sefydliadau partner a’r trydydd sector yn cydweithio i adeiladu dyfodol cynaliadwy drwy gefnogi, hwyluso a threfnu newid cadarnhaol yn llesiant pobl a chymunedau drwy ddulliau gweithio ar y cyd. Mae gennym gyfoeth o brofiad mewn gwirfoddoli, datblygu cymunedol a phrosiectau, meithrin cyfalaf cymdeithasol ac ymgysylltu gyda chymunedau.
?Cyswllt: bethan.warrington@gavo.org.uk
Age Cymru – Prosiect HOPE
Cynnig cymorth eiriolaeth am ddim i unrhyw un dros 50 oed neu eu gofalwr, os yn briodol.
?Cyswllt: michael.mitchell1@agecymru.org.uk
Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA)
Tîm Ymgysylltu/iConnect – Y Tîm Ymgysylltu yw braich datblygu cymunedol MHA sy’n gweithio i rymuso a chryfhau cymunedau a gwrando ar lais tenantiaid a phrydleswyr MHA ledled Sir Fynwy.
iConnect – Anelu i ddod â’r byd digidol i flaenau bysedd pawb sy’n hyrwyddo ffyrdd rhwydd a fforddiadwy o gysylltu a gwella sgiliau digidol, gan sicrhau na chaiff neb eu hallgau o fanteision byd digidol.
Pobl Ifanc a Chymunedau
Darparu cysylltiadau cymunedol, cwnsela a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n ofalwyr.
?Cyswllt: nathanmeredith@monmouthshire.gov.uk
The Cookalong Clwb
Grymuso plant gyda hyder yn y gegin, sgiliau bywyd hanfodol ac yn cefnogi bwydo boliau, nid y bin bwyd.
?Cyswllt: hello@thecookalongclwb.co.uk
Treftadaeth MonLife
Mae dysgu yn darparu ystod o adnoddau a gweithgareddau ar gyfer pobl a’u gofalwyr sy’n byw gyda dementia, yn cynnwys hel atgofion a blychau trin eitemau hanesyddol, sesiynau hel atgofion gyda hwylusydd a gweithdai crefft a sgwrs. Hefyd yn darparu hyfforddiant atgofion i rai sy’n rhoi gofal a gweithwyr gofal.
?Cyswllt: karinmolson@monmouthshire.gov.uk
Iechyd yr Amgylchedd
Yma i roi cyngor ac arweiniad i brosiectau cymunedol sy’n trin bwyd.
?Cyswllt: samwatkins@monmouthshire.gov.uk, niachappell@monmouthshire.gov.uk
U3A Sir Fynwy
Cynnig ystod eang o grwpiau diddordeb arbennig a drefnir gan aelodau ar gyfer pobl nad ydynt mwyach mewn gwaith llawn-amser, gan annog astudiaeth anffurfiol, diddordebau hamdden, hobïau, cerddoriaeth, creadigrwydd, gweithgaredd corfforol a chymdeithasu.
?Cyswllt: https://monmouthu3a.com/contact-us/
Halls Together yn Sir Fynwy a Chasnewydd
Prosiect sy’n dod â neuaddau ynghyd drwy ddarparu llwyfan gwefan i neuaddau farchnata eu hadeiladau a digwyddiadau cymunedol a chodi safonau drwy ddarparu cymorth, gwybodaeth i wirfoddolwyr.
?Cyswllt: ourhallstogether@gmail.com
Cyngor Gweithredu Wirfoddol Cymru (WCVA)
Galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud gwahaniaeth mwy gyda’i gilydd, gan gydweithio’n agos gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol lleol fel rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae’r ffocws ar lywodraethiant da, dylanwadu ac ymgysylltu, gwirfoddoli ac adnoddau ar gyfer sector cynaliadwy.
?Cyswllt: sbakermaurice@wcva.cymru
Canolfan Dyled CAP Cas-gwent a’r Cylch
Cynnig cyngor a chymorth dyled am ddim yn y cartref a hefyd yn cynnal cyrsiau trefnu cyllideb/trin arian.
?Cyswllt: davidprice@capuk.org
Tîm Profiad ac Ymgyfraniad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Blaenau Gwent
Cynnig Ymwybyddiaeth Dementia, Gwirfoddoli, Ffactorau Risg Dementia, Addysg Gofalwyr a Gwrandawyr Cymunedol.
?Cyswllt: sian.hanniford@wales.nhs.uk
Tîm Datblygu Cymunedol Sir Fynwy
Rydym am bobl yn gwneud pethau gwych gyda’i gilydd. Ar draws Sir Fynwy, mae pobl yn dod ynghyd i weithredu ar y pethau sy’n bwysig iddynt. Rydym yn helpu pobl i rannu syniadau, talentau, sgiliau ac angerdd i wneud gwahaniaeth lle maent yn byw. Dewch i gysylltiad os hoffech chi fod yn fwy cysylltiedig â’ch cymuned neu os oes gennych syniad gwych am rywbeth i ddod â phobl ynghyd. Gallwn helpou gyda phethau fel:
o Canfod cyllid
o Darparu hyfforddiant a datblygu am ddim
o Adolygu rhwydweithiau cefnogaeth
o Annog pobl eraill i’ch helpu
o Dod o hyd i leoliad
o Hyrwyddo eich syniad
o Eich helpu gydag unrhyw reoleiddio a biwrocratiaeth
o Gwybodaeth am lesiant a chefnogaeth i’ch cysylltu gyda chyfleoedd
?Cyswllt: wellbeing@monmouthshire.gov.uk
Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen
Mae Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen yn rhoi help a chyngor i bobl hŷn i barhau’n ddiogel, saff ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
?Cyswllt: dgrant-crichton@crmon.org.uk
Agenda:
- Arddangosfa Gymunedol 13:30 – 17:00
Profwch awyrgylch arddull marchnad lle bydd grwpiau cymunedol a gwasanaethau lleol yn cynnal byrddau, gan gyflwyno ystod amrywiol o gyfraniadau i’r gymuned. Mae hwn yn gyfle unigryw i ddarganfod y cyfoeth gwasanaethau sydd ar gael a dysgu sut y gallwch gymryd rhan neu gael mynediad i gefnogaeth.
- Gweithdy Gwneud Cawl Nwdl 14:00 – 15:00
Coginio ar gyfer plant ac oedolion a gyflwynir gan y Gymdeithas Cadwraeth.
- Gweithdy Atgofion 14:00 – 14:30
Cyflwynir gan Amgueddfeydd Sir Fynwy, gan ddefnyddio casgliadau hanes cymdeithasol Amgueddfeydd Sir Fynwy. Addas ar gyfer pobl sy’n gweithio, gwirfoddoli neu gofalu am bobl sy’n byw’n dda gyda dementia.
- Sgiliau Syrcas 15:00 – 16:00
Cyflwynir gan Syrcas Gymunedol Cas-gwent. Hwyl i blant ac oedolion ac oedolion – unrhyw un sy’n barod i roi cynnig arni!
- Gwella Mannau Bach Gwyrdd 15:00 – 15:30
Cadwch Cymru’n Daclus. Gofodau mannau bach gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt a gwneud cais am becynnau Mannau Lleol ar gyfer Natur.
- Trafodaeth Panel Arbenigol ar Gyllid yng Nghymru 16:00 – 17:00
WCVA, y Loteri Fawr, GAVO a Chyngor Sir Fynwy. Tyrchu i dirlun deinamig cyllid yng Nghymru gyda’n panel o arbenigwyr uchel eu parch. Cyfle i gael gwybodaeth werthfawr, ymchwilio cyfleoedd a thrin heriau o fewn amgylchedd cyllid y rhanbarth. Cynlluniwyd y sesiwn i wneud i chi feddwl a rhoi’r wybodaeth i chi a all wella eich cynlluniau a phrosiectau cymunedol.
Mae’r prosiectau hyn [wedi’u hariannu/ariannu’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Tags: community, levellingUp, Monmouthshire