Drwy gydol mis Ionawr, mae arddangosfa newydd wedi’i harddangos yn Neuadd y Sir i ddathlu ei hanes dros 300 mlynedd. Yr arddangosfa hon yw’r gyntaf o lawer o arddangosfeydd newydd a arddangosir yn Amgueddfa newydd Neuadd y Sir.
Ochr yn ochr â’r arddangosfa, bydd tîm Neuadd y Sir yn ymgysylltu â’n cymunedau lleol ac yn siarad ag ymwelwyr i ddeall pa bynciau a themâu y maent am eu gweld yn yr amgueddfa. Bydd yr holl adborth yn cael ei ddefnyddio i greu’r Cynllun Dehongli a fydd yn llywio dyluniad a phrofiad ymwelwyr â’r amgueddfa.
Yn ogystal â’r arddangosfa, gall ymwelwyr weld yr adolygiadau diweddar o’r casgliadau a gynhaliwyd ar draws amgueddfeydd MonLife.
Wedi’i ariannu gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r gwaith hwn yn cefnogi symud casgliadau Nelson a Threfynwy i’w cartref newydd yn Neuadd y Sir. Mae’r grant yn ychwanegiad cadarnhaol i’w groesawu, yn enwedig gyda’r pwysau cynyddol ar wasanaethau diwylliannol oherwydd cyllidebau sy’n cael eu cwtogi. Bydd y gwaith yn helpu i lunio dyfodol cynaliadwy i’r amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i bleidleisio ar y gwrthrychau a’r themâu allweddol sy’n ymwneud â’r Arglwydd Nelson, a fydd yn llywio’r arddangosfeydd yn yr amgueddfa newydd yn y dyfodol.
Mae’r holl waith hwn wedi bod yn rhan o’r prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Bocs’ y mae’r amgueddfa wedi bod yn ei gyflawni drwy gydol 2023. Ar ôl adolygu casgliad Nelson, nododd y tîm gasgliad o arwyddocâd cenedlaethol. Dyma nawr yw eich cyfle i roi adborth ar yr hyn sy’n bwysig i chi o fewn y casgliad.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r arddangosfa newydd yn yr Amgueddfa yn gyfle gwych i gymunedau lleol ac ymwelwyr â Threfynwy ddysgu mwy am hanes adeilad mor eiconig yng nghanol y dref. Rydym am ddarparu gofod lle gall pawb ddysgu am eu hanes lleol tra’n gweld arddangosfeydd y maent am eu gweld. Ewch i’r arddangosfa i ddysgu mwy am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn Amgueddfeydd MonLife.”
Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd yn Neuadd y Sir yma: https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/the-shire-hall/
Tags: MonLife, Monmouthshire, museums, news, Shire Hall