Gall y Nadolig fod yn amser hudolus i blant, ond nid yw hyn yn wir am bob plentyn.
Mae yna blant yn Sir Fynwy nawr a fydd mewn cartref plant y Nadolig hwn oherwydd prinder gofalwyr maeth.
Ym mis Rhagfyr eleni, mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn lledaenu’r gair ar sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn trwy faethu.
Mae tîm Maethu Cymru Sir Fynwy wedi bod yn teithio ar draws Sir Fynwy i siarad â phobl am faethu a sut y gallai weithio i chi – boed hynny fel gofalwr maeth i blentyn mewn argyfwng, i roi seibiant i’w rieni, i fam ifanc a’i babi gyda’i gilydd, i blentyn sydd angen teulu yn ystod eu plentyndod, neu i ddarparu cymorth i berson ifanc sy’n symud i annibyniaeth.
Eleni, mae’r tîm wedi siarad â phlant a phobl ifanc sydd angen rhywun i ddarparu cartref maeth iddynt er mwyn gofyn beth maent yn ei ddymuno ar gyfer y Nadolig. Daeth yr atebion a gawsom yn ein hymgyrch maethu Nadolig. Dywedodd y plant eu bod am “gael fy ngharu”, “fy mrawd a’m chwaer”, “i mam wella” a “gweld fy ffrindiau”.
Drwy ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Fynwy, gallwch sicrhau bod plant a phobl ifanc lleol yn aros yn eu cymunedau ac yn agos at y bobl a’r lleoedd sy’n bwysig iddynt. Bydd tîm nid-er-elw Maethu Cymru Sir Fynwy wrth eich ochr bob cam o’r ffordd, gan ddarparu rhwydwaith cymorth sy’n cynnwys eich gweithiwr cymdeithasol ymroddedig eich hun, mynediad at amrywiaeth eang o hyfforddiant yn ogystal â system cyfeillio a mentora, cymorth rheolaidd mewn grwpiau, mynediad at ein gwasanaeth seicoleg a therapi, cymorth y tu allan i oriau swyddfa arferol ynghyd â ffioedd a lwfansau i dalu eich costau a mynediad i ystod o fuddion eraill megis nofio am ddim ym mhyllau nofio Cyngor Sir Fynwy a llawer mwy!
Mae’r tîm eisiau clywed gan bobl o ystod eang o gefndiroedd sy’n gallu cynnig cartref i blant a phobl ifanc o bob oed ac angen. Rydym wir angen clywed gan bobl sy’n gallu gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, grwpiau brodyr a chwiorydd neu blant ag anghenion ychwanegol ond mae angen gofalwyr maeth ar gyfer pob oed.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Ian Chandler: “Mae’r Nadolig yn amser i fod gyda theulu a ffrindiau, ond nid yw hyn yn wir am rai plant a phobl ifanc yn ein sir. Drwy ymuno â’r gofalwyr maeth anhygoel o fewn Maethu Cymru Sir Fynwy, gallwch chwarae rhan hanfodol mewn cael effaith gadarnhaol ar fywyd plentyn neu berson ifanc.
Cysylltwch os ydych yn meddwl y gallwch gefnogi plentyn neu berson ifanc lleol.”
A allwch chi ddarparu cartref i blentyn neu berson ifanc? Cysylltwch â ni heddiw: https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/cy/cysylltu-a-ni
Tags: foster wales, Monmouthshire, news