Dysgodd disgyblion ysgolion cynradd am ffermio ac amaethyddiaeth ar lefel ymarferol ar Fferm Langtons fel rhan o’r prosiect Llysiau o Gymru i Ysgolion.
Mae deg ysgol gynradd yn rhan o brosiect peilot i ddatblygu cadwyni cyflenwi agroecolegol lleol newydd ar gyfer ysgolion, yn benodol ar lysiau a gyflenwir yn lleol.
Roedd wyth o’r deg ysgol wedi ymweld â Fferm Langtons yn ddiweddar i ddysgu mwy am y gadwyn gyflenwi a chael profiad o blannu a chynaeafu llysiau a fydd yn cyflenwi eu cinio ysgol.
Yn ystod eu hymweliad, cafodd y disgyblion gyfle i blannu setiau nionod a bylbiau garlleg a mynd ar daith o amgylch y fferm. Gyda chymorth perchennog y fferm, Katherine, bu’r disgyblion hefyd yn cynaeafu moron ffres o’r pridd cyn eu golchi a’u bwyta. Gwnaeth y profiad hwn eu helpu i sicrhau dealltwriaeth well o ble mae eu bwyd yn dod. Buont hefyd yn trafod eu hoff fwydydd a chiniawau ysgol. Derbyniodd yr holl blant a gymerodd ran yn yr ymweliad ‘fag cawl’ gyda thatws organig ffres, cennin, winwns, garlleg, a chiwbiau stoc y gallent eu defnyddio i wneud cawl cennin a thatws maethlon gyda’u teuluoedd ar gyfer swper.
“Mae angen i ni i gyd fwyta mwy o lysiau gwyrdd! Mae bwyta llysiau yn allweddol i ddeiet iach, cynaliadwy. Mae helpu ein plant i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau blasus a maethlon a dyfir yma yng Nghymru yn dda iddynt hwy, y blaned a’n holl ddyfodol. Mae’r prosiect parhaus hwn yn gyfle gwych i Gyngor Sir Fynwy i gefnogi’r amgylchedd a’r economi leol a rhoi profiad cynhyrchu bwyd ymarferol i’n plant. Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan ohono.”
Cynghorydd Mary Ann Brockelsby
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy
Mae Llysiau o Gymru i Ysgolion yn brosiect peilot sydd â’r nod o ddatblygu cadwyni cyflenwi agroecolegol lleol newydd i ysgolion – gan ganolbwyntio’n benodol ar lysiau. O dan arweiniad Synnwyr Bwyd Cymru (https://www.foodsensewales.org.uk/), mae’r cynllun peilot Llysiau o Gymru i Ysgolion yn cael ei gefnogi gan gyllid Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru ac mae partneriaid hanfodol yn cynnwys Partneriaethau Bwyd, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd sy’n gwasanaethu Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy ynghyd â’r cyfanwerthwr, Castell Howell, nifer o dyfwyr brwdfrydig yn ogystal â Garddwriaeth Cyswllt Ffermio.
Tags: Monmouthshire, Monmouthshire Food Partnership, news, School