Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer dau gynllun Grant Gwella Mynediad newydd gyda’r nod o wella mynediad i atyniadau ymwelwyr Sir Fynwy neu ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr.
Ariennir y ddau gynllun grant o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Y cyntaf yw Cynllun Cefnogi Gwella Mynediad i Ddigwyddiadau, sy’n cynnig grantiau refeniw o hyd at £5,000 i ymgeiswyr sydd am wella mynediad mewn digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr a/neu gynnig gweithgareddau cynhwysol newydd mewn digwyddiadau yn Sir Fynwy.
Yr ail yw Cynllun Grant Cyfalaf Gwella Mynediad, sy’n cynnig grantiau cyfalaf o hyd at £25,000 i sefydliadau yn Sir Fynwy sy’n ceisio gwella mynediad at atyniadau a digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr.
Bydd ceisiadau ar gyfer y ddau gynllun grant yn cael eu hasesu rhwng nawr a diwedd Rhagfyr 2024 (pan fydd y cynllun yn cau) neu cyn hynny os dyrennir yr holl gyllid.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’r grantiau hyn yn rhoi cyfle gwych i wella hygyrchedd digwyddiadau ac atyniadau yn Sir Fynwy er budd pawb, boed nhw yma am ddiwrnod, wythnos neu oes. Byddwn yn annog unrhyw sefydliad sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i gyflwyno cais.”
Mae’r cynlluniau grant yn rhan o brosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin ehangach Llywodraeth y DU i ddatblygu Sir Fynwy fel cyrchfan i bawb. Mae gweithgareddau arfaethedig eraill yn cynnwys datblygiadau i wella hygyrchedd gwefan y gyrchfan, www.VisitMonmouthshire.com a chyngor a hyfforddiant arbenigol i fusnesau twristiaeth ar fynediad a chynwysoldeb.
Gallwch ddarllen mwy am gynlluniau grant newydd a’r meini prawf cymhwyster yma:www.visitmonmouthshire.com/destination-management/access-improvement-grants
Tags: MonLife, Monmouthshire, news