Yn sgil tirlithriadau diweddar ym Mhwll Ddu, mae sylfaen y ffordd ger y chwarel wedi ei difrodi’n ddifrifol, gan greu risg i ddiogelwch y cyhoedd. O ganlyniad, mae Ffordd Pwll Ddu ar gau i bob cerbyd, beiciwr a cherddwr hyd nes y cyhoeddir yn wahanol.
Mae Adran Briffyrdd Cyngor Sir Fynwy wedi comisiynu ymgynghorwyr WSP i asesu’r ardal ac archwilio opsiynau i gadw’r ffordd ar agor. Yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn yn garedig i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr osgoi’r llwybr hwn er eu diogelwch.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a diolch am eich cydweithrediad.
