Mae gwaith yn parhau ar ddatblygu cartref gofal newydd sbon Cyngor Sir Fynwy ym Mhorthsgiwed a fydd yn agor ei ddrysau ym mis Mawrth 2024 i ddarparu cymorth hirdymor i bobl sy’n byw gyda dementia tra hefyd yn cynnig cymorth tymor byr ar ffurf seibiant.
Mae Cartref Gofal Parc Severn View yn cynnig cynllun amgylcheddol pwrpasol yn seiliedig ar safonau arfer gorau ar gyfer pobl â dementia a model gofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd.
Mae’r cartref gofal 32 ystafell wely yma yn arloesol a chynhwysol newydd yn cael ei adeiladu gan Lovell’s a’i ariannu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru trwy law Partneriaeth Rhanbarthol Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Bydd y pedwar tŷ, ar gyfer wyth o bobl, yn sefydlu ffordd newydd o ddarparu gofal, gan greu cartrefi unigol o amgylch gardd cwrt cymunedol.
Nod y dyluniad newydd yw cefnogi cynefindra i bobl sy’n byw gyda dementia – ymdeimlad o gartref a bod yn gartrefol. Mae drysau ffrynt yn agor yn syth i mewn i’r cartref lle byddai pobl a bywyd y cartref yn fwy cyfarwydd na derbynfa a swyddfeydd. Mae datblygiad y cartref newydd yn cyd-fynd â dull newydd o staffio sy’n ceisio sicrhau cynhwysiant ar gyfer preswylwyr ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd.
Un o amcanion pwysig y cartref gofal newydd fydd cynnal cysylltiad â’r gymuned gyfagos. Drwy gysylltu a chreu cyfleoedd newydd yn y gymuned leol drwy gyfrwng digwyddiadau a mannau a rennir, bydd trigolion yn cynnal ymdeimlad o hunaniaeth bersonol a chynhwysiant. Bydd mannau a rennir yn cael eu defnyddio e.e. gerddi, rhandiroedd, sgwâr y pentref a neuadd bentref lle bydd trigolion a’r gymuned yn gallu dod ynghyd.
Bydd y cartref gofal newydd sbon yn arloesi’r ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu i bobl â dementia, gan ganiatáu iddynt fyw bywyd sy’n bwysig iddynt. Bydd yn gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda dementia mewn cartref gofal.
Dywedodd y Cynghorydd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd Hygyrch Ian Chandler: “Mae’n gyffrous gweld datblygiad Cartref Gofal Parc Severn View. Bydd y ffordd arloesol o ddarparu gofal i bobl â dementia yn eu galluogi i aros yn wirioneddol gysylltiedig â’r gymuned. Mae gennym ddyletswydd i ddarparu ar gyfer y trigolion mwyaf bregus yn ein cymuned a bydd agor y cartref gofal newydd sbon hwn yn caniatáu i bobl yn Sir Fynwy dderbyn y gofal gorau posib.”
Tags: Monmouthshire