Daeth miloedd i Sioe Flynyddol Brynbuga ar ddydd Sadwrn 9fed Medi ar gyfer diwrnod bendigedig i’r teulu. Yn ystod y diwrnod hynod o heulog, roedd pabell Cyngor Sir Fynwy yn fwrlwm o weithgarwch.
Cynigiwyd gweithgareddau crefft am ddim yn seiliedig ar thema bywyd gwyllt a phaentio wynebau ochr yn ochr â chymorth costau byw ac ardal ar gyfer bwydo a newid babanod. Roedd tîm Maethu Cymru hefyd wrth law i drafod sut y gallwch chi helpu i roi dyfodol disglair i blentyn o Sir Fynwy.
Roedd y Siop Ailddefnyddio yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddod o hyd i fargeinion a rhoi bywyd newydd i eitemau a thrugareddau. Mae’r arian a wneir gan yr eitemau ail-law hyn yn mynd tuag at ariannu plannu coed o amgylch Sir Fynwy, sy’n rhan hanfodol o’r camau gweithredu eang i helpu gyda’r Argyfwng Hinsawdd.
Roedd y tîm Derbyn i Ysgolion yno hefyd i roi’r holl wybodaeth angenrheidiol i rieni wrth wneud cais i ysgolion, gan gynnwys gwybodaeth am agoriad ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Nhrefynwy yn 2024.
Ar fwrdd arall, darparodd Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent wybodaeth ar sut mae seilwaith gwyrdd yn hanfodol i fynd i’r afael ag argyfyngau natur, newid yn yr hinsawdd ac iechyd. Drwy gydol y dydd, gallai ymwelwyr gymryd rhan mewn gêm olwyn Troelli i Ennill, lle’r oedd gwobrau’n cynnwys hadau blodau gwyllt a choed mewn potiau.
Yn ystod y dydd, cafodd ymwelwyr â’r babell eu diddanu gan adloniant amrywiol a oedd yn cynnwys yr hynod dalentog Kitsch & Sync, Louby Lou a oedd yn adrodd straeon ar thema gwenyn a’r diddanwr dwyieithog Halibalw Miwsig.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyng. Mary Ann Brocklesby: “Roedd yn wych siarad â chymaint o bobl yn Sioe Brynbuga y penwythnos hwn. Mae bod yn Sioe Brynbuga yn galluogi ein staff i ymgysylltu â phobl Sir Fynwy a rhannu gwybodaeth am eu gwaith gwych.
“Roedd gweld cymaint o bobl yn manteisio ar y cyfle i brynu eitemau o’r Siop Ailddefnyddio yn wych. Gyda’r Argyfwng Hinsawdd presennol, mae’n wych gweld yr eitemau hyn yn cael eu defnyddio eto. Diolch i bawb a ddaeth i’r babell fawr. Mae Gŵyl Fwyd y Fenni y penwythnos yma, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl i ardal hardd y Fenni. Os ydych yn ystyried faethu, bydd ein tîm wedi’i leoli yn yr Hyb Cymunedol drws nesaf i fynedfa Neuadd y Farchnad. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld.”
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyng. Meirion Howells: “Roedd yn ddiwrnod gwych yn y sioe. Roedd gweld cymaint o bobl yn ymweld ac yn ymgysylltu â’r adrannau gwahanol yn wych. Diolch i bawb a siaradodd â’r adrannau gwahanol a chofrestru eu diddordeb mewn dysgu am lawer o brosiectau.”







