O ddydd Llun, 4ydd Medi, bwriedir dechrau gwaith torri coed a chlirio prysgwydd ar hyd hen reilffordd y Weinyddiaeth Amddiffyn rhwng Cornfield (Porthsgiwed) a Pharc Gwledig Castell Cil-y-coed.
Mae’r gwaith yn rhan o Brosiect Teithio Llesol Cysylltiadau Cil-y-coed sydd â’r nod o ddatblygu llwybr Teithio Llesol di-draffig i gerddwyr a beicwyr ar hyd yr hen reilffordd.
Gan weithio gydag ecolegydd penodedig, mae effaith y gwaith wedi’i asesu’n drylwyr, ac mae’r gwaith yn cynnwys mesurau a gweithdrefnau diogelu ecolegol i leihau/cael gwared ar yr effaith ecolegol ar y bywyd gwyllt preswyl. Bydd cynllun ailblannu cydadferol yn cael ei roi ar waith unwaith y bydd yr holl waith adeiladu wedi’i gwblhau er mwyn darparu budd net o ran bioamrywiaeth ac arwain at ganopi coed mwy gwydn ar hyd yr hen reilffordd ar gyfer y dyfodol.
Bydd y gwaith torri coed a chlirio prysgwydd yn cael gwared ar tua 400 o goed o wahanol feintiau ac mae’n digwydd am ddau reswm:
1. Clirio rhai ardaloedd wrth baratoi ar gyfer adeiladu’r llwybr newydd y bwriedir ei wneud ar hyn o bryd yn ddiweddarach yn 2023. Mae’r gwaith hwn wedi’i gynnwys yn y caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y prosiect.
2. Gwaredu coed a adnabuwyd fel rhai sy’n peri risg i ddefnyddwyr y llwybr a’r pontydd priffyrdd presennol. Mae llawer o’r coed hyn yn Ynn sydd wedi’u heintio â chlefyd (Chalara) coed ynn, a all olygu bod y coed mewn perygl sylweddol o fethiant strwythurol, gan beri risg i ddefnyddwyr y llwybr.
Mae’r gwaith yn rhan o drwydded torri coed a sicrhawyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gyda’r holl waith yn cael ei wneud o fewn ffin yr hen reilffordd, rhagwelir y bydd y gwaith yn cymryd mis i’w gwblhau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr hen reilffordd ar gau i’r cyhoedd er diogelwch y cyhoedd.
Am ragor o wybodaeth neu unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:
Coutryside@monmouthshire.gov.uk