Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol sy’n cyfrannu at y symudiad bwyd da sydd yn Sir Fynwy.
Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am grantiau o hyd at £2,000 i gefnogi prosiectau sy’n cyrraedd cymunedau gwledig, sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant (gan gynnwys hyrwyddo’r Gymraeg), a/neu’n annog cydweithio rhwng cymunedau a busnesau/cynhyrchwyr bwyd lleol.
Wrth wneud cais, dylai ymgeiswyr nodi fod yn rhaid i brosiectau fodloni un o’r amcanion hyn:
- Cysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr lleol.
- Cynyddu mynediad at fwyd maethlon.
- Dod â phobl ynghyd trwy fwyd da.
- Hyrwyddo trafodaeth am ddewisiadau bwyd moesegol, cynaliadwy
Os oes gennych chi brosiect sy’n hyrwyddo bwyd, tarddiad, cynaliadwyedd a chydlyniant cymunedol, dyma’ch cyfle i wneud cais am arian.
Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus sicrhau bod y gweithgaredd yn barod i’w gynnig erbyn 31ain Hydref 2023.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30ain Medi 2023.
Er mwyn gwneud cais, cliciwch yma.
Tags: #grant, Monmouthshire, Monmouthshire Food Partnership, news