Dywedodd ein Harweinydd, y Cyng. Mary Ann Brocklesby:
Dywedodd ein Harweinydd, y Cyng. Mary Ann Brocklesby:
“Rydyn ni’n rhoi diogelwch ein plant a’n hathrawon yn gyntaf. Nid oes unrhyw goncrit amheus* wedi’i ganfod yn unrhyw un o’n hysgolion a bydd arolygon o’r holl adeiladau a adeiladwyd yn ystod yr amser y defnyddiwyd y deunydd hwn yn cael eu cwblhau erbyn dydd Mawrth nesaf (12fed Medi).
Ond mae gennym eisoes lefel uchel o hyder nad yw’r deunydd hwn wedi’i ddefnyddio yma ac rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar hyn”.
*Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth
13fed Medi
Dywedodd ein Harweinydd, y Cyng. Mary Ann Brocklesby:
Rwyf yn falch i gadarnhau nad oes dim concrit amheus* yn ysgolion Sir Fynwy. Mae’n arbenigwyr wedi ymweld a chynnal arolwg o leoliadau ble oedd risg potensial. Maent wedi cadarnhau ein hasesiadau cychwynnol, ac rydym wedi rhannu’r newyddion yma gyda Llywodraeth Cymru.
*Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth