Trefnodd Fforwm Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy Ddiwrnod o Hwyl i’r Teulu yng Nghastell Cil-y-coed ar ddydd Llun, 31ain Gorffennaf. Roedd yn gyfle gwych i ofalwyr ifanc gwrdd â’i gilydd, cael hwyl a dod o hyd i gefnogaeth.
Drwy gydol y dydd, manteisiodd gofalwyr ifanc a’u teuluoedd ar y cyfle i ymlacio a mwynhau gweithgareddau hwyliog, gan gynnwys chwarae pêl-droed pump bob ochr, rhoi cynnig ar y ‘bronco’ a stondin crempog. Roedd yn gyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd ar safle hyfryd Castell Cil-y-coed.
Mae tîm Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy yno i gefnogi, darparu arweiniad a chyfleoedd gweithgaredd cymdeithasol i bob gofalwr ifanc ar draws y sir er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ofalwr ifanc yn teimlo’n unig. Mae’r tîm ymroddedig yn cefnogi gofalwyr ifanc o dan 18 oed gyda sgiliau bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau coginio, sgiliau smwddio a gwnïo, chwaraeon a sesiynau lles.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby: “Mae Gofalwyr Ifanc ar draws Sir Fynwy yn darparu cefnogaeth wych i’w hanwyliaid. Roedd y Diwrnod o Hwyl i’r Teulu yng Nghastell Cil-y-coed yn fodd i ni ddiolch iddynt am eu holl waith. Gobeithio cawsant i gyd ddiwrnod bendigedig. Os ydych chi’n ofalwr ifanc neu’n ‘nabod rhywun sydd yn ofalwr ifanc ac yn chwilio am gefnogaeth, cysylltwch â’n tîm Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc gwych.”
Ychwanegodd y Cyngh. Meirion Howells, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r gefnogaeth y mae pob gofalwr ifanc yn ei ddarparu yn anhygoel. Diolch am eich holl waith, a hynny ar ran Cyngor Sir Fynwy.”
Os ydych yn ofalwr ifanc neu’n rhiant neu warcheidwad person ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu, cysylltwch â’r tîm Gofalwyr Ifanc drwy e-bostio youngcarers@monmouthshire.gov.uk neu gael gwybod beth sy’n digwydd drwy chwilio am Sir Fynwy Ifanc Gofalwyr ar Facebook, Instagram, neu Twitter.