Mae dwy o ddisgyblion Ysgol Eglwys yng Nghymru Osbaston wedi cyflwyno deiseb ‘Achub Eirth y Gogledd’ i Gyfarfod Craffu Lle Cyngor Sir Fynwy. Cafodd y ddeiseb ei llofnodi gan ddisgyblion o’r ysgol gynradd sydd eisiau gweld diwedd ar ddefnydd plastig un-tro i helpu mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Safodd y disgyblion, Charlotte a Ffion, yn Siambr y Cyngor a darllen eu deiseb i’r Cabinet, i Gynghorwyr yn cynrychioli wardiau ar draws y sir ac i swyddogion o bob rhan o’r Cyngor.
Treuliodd y Cyng. Mary Anne Brocklesby, Arweinydd y Cyngor, amser gyda’r disgyblion cyn y cyfarfod yn trafod eu deiseb ac yn canmol eu hymroddiad i weithio i helpu’r amgylchedd. “Rwy’n llawn edmygedd o’r bobl ifanc yma”, meddai. “Maent eisiau gwneud safiad a gwneud gwahaniaeth, a dylai hynny gael ei annog a’i gefnogi. Maent yn iawn i deimlo’n gryf am ddiogelu’r blaned ac i fod eisiau sicrhau dyfodol gwell drwy fynnu bod newidiadau’n cael eu gwneud i helpu’r amgylchedd.
Dywedodd y Cyng. Lisa Dymock, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Lle: “Mae angen bod yn ddewr iawn i gyflwyno i Siambr y Cyngor yn llawn pobl – gwnaeth Ffion a Charlotte waith gwych a dylent fod yn falch tu hwnt o’u hunain. Maent yn amlwg, ac iawn hynny, yn teimlo’n gryf am y difrod a gaiff ei wneud gan blastig un-tro ac maent eisiau gwneud gwahaniaeth, ac mae hynny’n rhywbeth i’w edmygu’n fawr. Roedd eu haraith yn rymus ac yn ysbrydoliaeth.”
Meddai’r Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae ein pobl ifanc yn iawn i fod yn bryderus am faterion tebyg i blastig un-tro a’r effaith a gaiff hynny ar yr amgylchedd. Maent eisiau dyfodol lle mae rhywogaethau fel eirth y gogledd yn ffynnu a dim yn wynebu darfodiad, lle nad yw ein moroedd yn llawn microblastig, lle mae gobaith i bawb ohonom. Hoffwn ddiolch i ddisgyblion ysgol gynradd Osbaston am gymryd rhan a chodi llais.”
Ymrwymodd Cyngor Sir Fynwy ym mis Mehefin 2018 i weithio tuag at ddod yn sir ddi-blastig gyda chefnogaeth Surfers Against Sewage. Mae hyn yn golygu ei fod ac yn bydd yn parhau i ostwng plastig un-tro a diangen i’r isafswm llwyr a hefyd yn cefnogi’r llu o grwpiau cymunedol sydd hefyd yn gweithio’n galed i wneud eu lleoedd yn ddiblastig.
Mae gwaith Cyngor Sir Fynwy i helpu gostwng plastig un-tro wedi cynnwys:
- Newid o boteli plastig bach 1/3 peint ar gyfer llaeth ysgol i boteli gwydr gan Laethdy Rhaglan (gan arbed 437,000 o boteli plastig bob blwyddyn!).
- Rhoi’r gorau i ddefnyddio bagiau ailgylchu plastig un-tro pinc a phorffor a newid i fagiau amldro ar gyfer ailgylchu, gan arbed plastig ac arian.
- Rhoi mygiau a gwydrau y gellir eu hailddefnyddio mewn cyfarfodydd yn Neuadd y Sir yn lle cwpanau un-tro.
- Rhoi’r gorau i brynu cartonau dognau unigol o laeth a ffyn troi plastig.
- Mae’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden bellach yn orsafoedd Ail-lenwi lle gallwch ail-lenwi eich potel ddŵr.
- Cafodd yr holl arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynnyrch mislif i’w dosbarthu mewn ysgolion ac adeiladau cymunedol eu gwario ar gynnyrch di-blastig ac amldro.
- Cynnal digwyddiadau a stondinau i annog pobl i ostwng y defnydd o blastig, tebyg i Sioe Brynbuga a digwyddiadau cymunedol eraill.
- Annog pobl i rannu llestri a chyllyll a ffyrc amldro mewn partïon a gofyn i siopau prydau parod i beidio defnyddio deunydd pacio plastig.
- Annog gwahardd rhyddhau balŵns neu lusernau o unrhyw ddigwyddiad ar eiddo’r Cyngor.
- Cefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau i gasglu sbwriel a sefydlu canolfannau casglu sbwriel ar draws y sir lle gall pobl fenthyca offer casglu sbwriel.
- Helpu ysgolion sydd eisiau dysgu mwy am yr amgylchedd a’r hyn sy’n digwydd i’w gwastraff.
- Sefydlu ‘llyfrgell pethau’ lle gall pobl fenthyca pethau fel offer gardd, offer picnic ac yn y blaen i ostwng gwastraff a Chaffes Trwsio lle gall pobl cael pethau wedi eu hatgyweirio.
Diolchodd Cyngor Sir Fynwy i Ffion a Charlotte am hyrwyddo gostwng plastig yn y sir a thynnu sylw at bwysigrwydd diogelu dyfodol eirth y gogledd. Bydd y Cyng. Catrin Maby yn ymateb yn ffurfiol i’r disgyblion i nodi’r hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd i ostwng plastig un defnydd a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.