Yng nghyfarfod o’r Cyngor ym mis Ionawr, cyhoeddodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy Catrin Maby gynlluniau i ail-osod wyneb y ffordd ar Bont Gwy.
Mae cyflwr y briffordd wedi bod yn bryder ers tro byd, ond mae’r gwaith i wneud gwelliannau wedi ei oedi yn sgil yr atgyweiriadau a oedd eu hangen ar strwythur y bont a’r pibellau cyfleustodau. Mae’r gwaith yma wedi ei gwblhau a ac mae’r peirianwyr nawr yn paratoi i ddylunio a chadarnhau yr hyn sydd angen gwneud er mwyn ail-osod wyneb y briffordd fel bod y ffordd hanfodol hon o’r A466 yn addas i’r diben.
Mae gwaith eisoes yn cael ei wneud er mwyn ymchwilio cyflwr deunydd y briffordd ar hyn o bryd fel bod y dylunydd yn medru caarnhau’r gwaith sydd ei angen. Unwaith bod hyn yn cael ei wneud, bydd y broses dendro yn dechrau gyda’r nod o ddechrau’r gwaith adeiladu rhwng canol Gorffennaf a diwedd Awst pan fydd yna lai o draffig.
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd y gwaith atgyweirio hanfodol yn achosi tipyn o aflonyddwch gan y bydd angen cau’r ffordd, gan arwain at lwybr dargyfeirio hir. Er mwyn lleihau’r effaith ar y gymuned, byddwn yn gwneud ychydig o’r gwaith gyda’r nos neu ar y penwythnos. Bydd swyddogion y Cyngor yn gweithio gyda’r contractwr er mwyn cytuno ar gynllun rheoli’r gwaith adeiladu. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r cyhoedd a gweithlu’r contractwr.
Bydd manylion o ran amser y gwaith adeiladu a’r aflonyddwch posib yn cael eu rhannu gyda’r gymuned leol unwaith y mae’r contractwr wedi wedi ei apwyntio a’r rhaglen waith wedi ei chadarnhau. Wrth gau’r ffordd, byddwn yn dilyn y broses statudol arferol sydd yn cynnwys ymgynghori gyda’r sawl sydd yn defnyddio’r briffordd fel cwmniau lorïau, gwasanaethau brys a busnesau a fydd yn cael eu heffeithio gan y gwaith.