Yng nghyfarfod o’r Cyngor llawn ar 9fed Mawrth, penderfynodd y Cynghorwyr ar lefel Premiymau’r Dreth Gyngor ar gyfer ar ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor ar gyfer 2024/25 a fydd yn dod i rym o’r 1af Ebrill 2024.
Yr effaith ar gymunedau Sir Fynwy yn sgil cartrefi sy’n wag yn y tymor hir ac ail gartrefi oedd y rhesymau allweddol dros y newid hwn. Ar gyfer anheddau sydd yn wag am dair blynedd neu fwy, bydd y perchnogion yn gorfod talu premiwm o 300% ar y Dreth Gyngor – y gobaith yw y bydd hyn yn lleihau’r nifer o anheddau gwag yn y sir.
Roedd ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni wedi gwahodd perchnogion ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor, ynghyd â’r rhai sydd yn berchen ar y fath eiddo, i rannu eu barn ar y lefel y dylid gosod y premiwm. Derbyniwyd 320 o ymatebion.
Yn y cyfarfod o’r Cyngor llawn, cytunwyd y dylai’r Cyngor ddefnyddio ei bwerau disgresiynol i gyflwyno:
- Premiwm ar y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau gwag hirdymor ar hir ar raddfa rhwng 100% a 300% a fydd yn dod i rym o’r 1af Ebrill 2024. Bydd y premiwm o 100% yn berthnasol i anheddau sydd yn wag am flwyddyn, premiwm o 200% yn berthnasol i anheddau sydd yn wag am ddwy flynedd a phremiwm o 300% yn berthnasol i anheddau sydd yn wag am dair blynedd neu fwy
- Premiwm ar y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi o 100% o’r 1af Ebrill 2024 a bydd ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i’r effaith ar yr economi leol cyn defnyddio’r pŵer yma
Dywedodd y Cyngh. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor: “Mae ein sir yn wynebu nifer o heriau o ran tai. Mae hyn yn cynnwys prisiau tai sydd yn cynyddu, galw cynyddol am dai fforddiadwy a’r angen am lety dros dro er mwyn ymateb i’r lefelau uchel o ddigartrefedd. Rwyf yn falch ein bod wedi llwyddo i weithio gyda’n gilydd er mwyn ystyried y mater cymhleth hwn, cytuno ar ffordd i fynd i’r afael gyda’r sefyllfa a chreu mwy o gartrefi yn y sir.”
Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw: “Mae’r penderfyniad yn golygu y bydd y refeniw ychwanegol sydd yn deillio o’r premiymau yma, yn unol gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru, yn helpu ni ddefnyddio anheddau sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir er mwyn darparu cartrefi gofal, diogel a fforddiadwy a’n helpu cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.”
Dywedodd y Cyngh. Rachel Garrick, Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: “Mae hwn yn gam mawr ymlaen er mwyn annog perchnogion i ddefnyddio anheddau gwag. Bydd hyn yn cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy sydd i’w prynu neu’u gosod mewn cymunedau lleol. Bydd hyn wedyn yn gwella cymunedau lleol, drwy ganiatáu pobl i ddod o hyd i gartref fforddiadwy yn lleol.”
Premiymau’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor
Cyngor yn cytuno ar bremiymau’r Dreth Gyngor i fynd i’r afael gydag anheddau gwag hirdymor