
Mae Rhwydweithiau Gweithredu Cymunedol yn gyfres o ddigwyddiadau a gweithdai sydd yn cael eu cynnal mewn partneriaeth gyda chymunedau.
Mae’r digwyddiadau yn ceisio creu cyfleoedd i aelodau o’r gymuned i ddod ynghyd a rhwydweithio gyda’i gilydd ar syniadau a phrosiectau sydd yn bwysig i chi a’ch cymuned.
Meddyliwch – “Petai tri pherson arall yn helpu, beth fyddech am wneud er mwyn gwneud eich cymuned yn lle gwell?”
Mae llawer o bartneriaid yn y sector gwasanaethau cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yn ymuno yn y rhwydweithiau ac yn medru helpu eich prosiect neu’ch syniad drwy fenthyg staff ac arbenigedd neu’ch helpu i gael mynediad at arian.
Mae cymunedau, grwpiau a mudiadau yn medru gofyn am help er mwyn trefnu Rhwydweithiau Gweithredu Cymunedol yn eu hardal. Cwblhewch y ffurflen fer isod i ddechrau’r proses:
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda
fredweston@monmouthshire.gov.uk 07890 559566
Newyddion

Neuaddau Pentref
Pwrpas y digwyddiad oedd cysylltu â thrigolion, gwrando ar eu straeon, a rhannu lluniau hanesyddol o’r pentref. Buont hefyd yn ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned i gasglu syniadau ar lywio dyfodol y neuadd bentref.

Cymunedau Ffyniannus – Digwyddiad Rhwydwaith Gweithredu Cymunedol
Ymunwch â ni am arddangosiad cymunedol AM DDIM gyda chyfleoedd rhwydweithio a gwirfoddoli, ynghyd â gweithdai cymunedol. Os hoffech gymryd mwy o ran yn eich cymuned lleol neu ddod o hyd i gymorth, dewch draw a gweld pa gyfleoedd sydd ar gael. > https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/thriving-communities-community-action-network-event/

Rhwydwaith Gweithredu Cymunedol – Tyfu eich cynnyrch eich hun
Anelwyd y gweithdy at unrhyw un, neu unrhyw grwpiau cymunedol, sydd â diddordeb mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy neu sydd eisoes yn tyfu eu cynnyrch eu hunain. Roedd hyfforddiant am ddim ar gael ar wneud compost organig a’r defnydd helaeth y gellir ei wneud ohono, garddio ‘dim palu’ a gwella iechyd y pridd, a gwneud eich sauerkraut eich hun.