Skip to Main Content

Ar draws Sir Fynwy fe wnaeth disgyblion ysgolion cynradd ‘Ddangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ ar ddydd Gwener 21ain Hydref drwy wisgo’n goch a dathlu amrywiaeth yn eu hysgolion.

Mae Diwrnod Gwisgo’n Goch yn Ddiwrnod Cenedlaethol o Weithredu sy’n annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch ac, os gallant, roi rhodd a fydd yn mynd tuag at weithgareddau addysg gwrth-hiliaeth i bobl ifanc ac oedolion. Mae Diwrnod Gwisgo’n Goch yn rhan o wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.  Mae pob ceiniog sy’n cael ei godi yn ystod Diwrnod Gwisgo’n Goch yn galluogi’r ymgyrch i weithio gyda mwy o bobl ifanc ac oedolion ledled y DU er mwyn herio hiliaeth yn ein cymdeithas.

Yn Ysgol Gynradd Dell yng Nghas-gwent, roedd plant yn falch o wisgo’n goch i ddangos eu cefnogaeth. Dywedodd Henry, Forest a Sophie, disgyblion yn Ysgol Gynradd Dell: “Nid yw am sut rydych yn edrych, na pha liw gwallt sydd gennych chi, beth rydych chi’n hoffi, beth yw eich credoau – ydych chi’n berson da y tu mewn sy’n bwysig. Mae pawb yn unigryw, ddylen ni ddim cael ein rhoi ar wahân oherwydd sut rydyn ni’n edrych, dylen ni i gyd gael ein trin fel un pobl.”

Henry, Forest a Sophie

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby:   “Da iawn i’r holl blant dwi wedi eu gweld yn Ysgol Gynradd Dell heddiw a gymerodd ran yn Niwrnod Gwisgo’n Goch i nodi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb. Yn Sir Fynwy, rydym yn cymryd troseddau casineb o ddifrif.  Nid oes gennym unrhyw oddefgarwch tuag at unrhyw weithredoedd sy’n gwahaniaethu neu sy’n trin pobl yn wahanol oherwydd pwy ydynt, a lliw eu croen. Dylid trin pawb ag urddas, a rhoi parch a’r un cyfleoedd iddynt i gyflawni eu potensial a byw eu bywydau’n ddiogel. Dylen ni fod yn rhoi’r cerdyn coch i hiliaeth bob dydd”

Dywedodd Shajan Miah, Rheolwr Datblygu Cymunedol a Phartneriaeth Cyngor Sir Fynwy, “Dylen ni garu pawb am yr hyn yr ydynt, waeth beth maen nhw’n ei gredu ynddo. Dylem barchu diwylliannau, crefyddau a dathlu a gwerthfawrogi amrywiaeth, oherwydd bydd y byd yn lle diflas heb hynny.”

Os hoffech gyfrannu at Ddiwrnod Gwisgo’n Goch, fel y gall mwy o bobl ifanc ac oedolion gael eu haddysg ar faterion pwysig ledled y DU, ewch i: Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth – Diwrnod Gwisgo’n Goch