Mae Chwedlau’r Dreigiau, Codau Môr-ladron, Teithiau mewn Amser a Thrysorau, a Chrefftau ar gael wrth i amgueddfeydd ledled Cymru fod yn brysur yn dod â chymysgedd hudolus at ei gilydd ar gyfer hanner tymor hanesyddol aruthrol, wrth i Ŵyl Amgueddfeydd Cymru sicrhau digon o weithgaredd i swyno pobl leol ac ymwelwyr o bob oed. A gyda chostau byw yn codi’n aruthrol, bydd gan yr ŵyl eleni fwy o weithgareddau gŵyl AM DDIM nag erioed o’r blaen.
Wrth siarad am yr ŵyl, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Mae amgueddfeydd gwych Cymru yn ategu ein hymdeimlad o genedligrwydd a lles. Maen nhw hefyd yn allweddol i’n heconomi twristiaeth. Ar adeg pan fydd teuluoedd ac unigolion ledled y DU yn cael trafferth ymdopi â chostau byw uwch, rydyn ni’n teimlo’n gryf y dylai hanes a thrysorau Cymru barhau i fod ar gael i bawb. Felly mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi Gŵyl Amgueddfeydd Cymru i gynnig pythefnos llawn o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran, gan groesawu ymwelwyr a chefnogi ein cymunedau ag amrywiaeth ddeniadol o ddigwyddiadau a gweithgareddau mewn amgueddfeydd ledled Cymru. Ac yn bwysig, rydyn ni’n galluogi cynnig mwy o’r digwyddiadau hyn nag erioed yn rhad ac am ddim.
Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn bosibl diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’n ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei gyflwyno gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, sef y corff eirioli ar gyfer amgueddfeydd ac orielau a’r rhai sy’n gweithio yn y sector hwn yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli dros 100 Amgueddfa Achrededig unigryw yng Nghymru, o amgueddfeydd bach annibynnol i amgueddfeydd cenedlaethol. Gyda’i gilydd, mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru. Maen nhw’n adnodd gwerthfawr ar gyfer dysgu, archwilio a gwybodaeth am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol, a’r ffordd rydym wedi byw yma yng Nghymru ers cyn cof.
Wrth lansio’r rhaglen ar gyfer yr Ŵyl eleni, Nêst Thomas, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru: “Rwy’n ddiolchgar i’n hamgueddfeydd gwych am dderbyn yr her o gymryd rhan mewn gŵyl hirach eleni, fel y gallen ni gefnogi economïau twristiaeth lleol a’n cymunedau i gael hanner tymor i’w gofio Mae’n teimlo’n arbennig o bwysig, ar yr adeg hon o galedi ariannol uwch, ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn ni i gefnogi lles ein hymwelwyr – felly rydyn ni wrth ein boddau y bydd mwy o weithgareddau nag erioed ar gael am ddim. Dewch draw i ddarganfod ein trysorau, cymryd rhan mewn halibalŵ hanesyddol, datrys posau, dysgu, gwneud eitemau crefft, clywed toreth o storïau, teithio mewn amser a mwynhau.”
Yn Sir Fynwy, mae Treftadaeth MonLife yn cynnig nifer o weithgareddau am ddim mewn partneriaeth â’r ŵyl.
Un o brif themau’r ŵyl eleni yw ‘trysor’. Bydd digwyddiadau’r ŵyl yn archwilio trysorau a gedwir mewn casgliadau amgueddfeydd ac yn gofyn cwestiynau fel ‘beth ydych chi’n ei drysori?’ a ‘pham?’. I’r perwyl hwnnw, bydd yr ŵyl yn cynnwys pobl ifanc yn eu harddegau sy’n ymweld, mewn Cystadleuaeth Ffotograffiaeth sy’n eu hannog i archwilio rhai o’u syniadau am drysor yn greadigol, tra bydd plant yn mwynhau hela am gist drysor Barti Ddu drwy ddatrys cyfres o bosau a thorri’r cod cyfrinachol.
O, ac a wnaethon ni sôn am ddreigiau? Edrychwch allan oherwydd ‘Dyma Ddreigiau’! Mae criw o ddreigiau bach wedi deor ac yn rhedeg yn wyllt mewn nifer o’n hamgueddfeydd ac mae angen llygaid ifanc, craff i helpu i ddod o hyd iddynt. Drwy gydol Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, bydd amgueddfeydd yr effeithiwyd arnynt gan y dreigiau yn denu ymwelwyr i’w helpu i’w casglu a’u dychwelyd i’r gwyllt, fel y gallant dyfu’n fawr ac yn nerthol fel y ddraig ar faner Cymru.
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau penodol. Tra bod y dail yn newid eu lliw a’n bywyd gwyllt bendigedig yn paratoi ar gyfer y dyddiau oerach o’n blaenau, galwch heibio ac ymunwch â ni am hwyl hanner tymor rhad ac am ddim gyda’n diwrnodau chwarae clai anifeiliaid hydref o 11am-3pm ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Llun 31ain Hydref yn Amgueddfa Neuadd y Sir, Trefynwy
Dydd Mawrth 1af Tachwedd yn Amgueddfa a Chastell y Fenni.
Dydd Iau 3ydd Tachwedd yn Neuadd Ymarfer Cas-gwent.
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Nid oes angen archebu lle.
Y Cynghorydd Meddai Sara Burch o Gyngor Sir Fynwy: “Mae digonedd o weithgareddau chwarae i’r teulu yn Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent yr wythnos hon. Mae cyfleoedd i blant wisgo mewn gwisgoedd, chwarae gêm o ‘daflu’r pysgod yn y fasged’, tynnu’r llinell hiraf y gallwch â sialc, neu fachu ‘ceffyl’ a rhygyngu i lawr y coridor. O geginau mwd a byrddau sialc i wisgo lan, a theganau a gemau, mae ‘na rywbeth i wneud ymweliad yn llawn hwyl.”
Bydd y Teithiau mewn Amser yn dod i ben ar 6ed Tachwedd a bydd manylion llawn y rhaglen ar gael ar https://www.monlife.co.uk/cy/autumn-animal-clay-play/ ac ar wefan yr ŵyl www.amgueddfeydd.cymru