Roedd seremoni a gynhaliwyd yn y Neuadd Sir ym Mrynbuga’r wythnos diwethaf yn cydnabod cyfraniadau dau o aelodau gweithlu Cyngor Sir Fynwy sydd wedi gwasanaethu’r awdurdod hiraf – Pauline Batty a Roger Hoggins.
Roedd Uchel Siryf Gwent, Malgwyn Davies, OBECStJ, wedi arwain y cyflwyniad, gyda Chadeirydd y Cyngor, y Cyngh. Laura Wright, Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby a’r Prif Weithredwr, Paul Matthews, hefyd yno.
Roedd Uchel Siryf Gwent wedi cyflwyno’r gwobrau i Pauline and Roger, sydd yn cydnabod eu gwaith gwych a gwerthfawr a dywedodd: “Roedd yn anrhydedd i gyflwyno Dyfarniad Uchel Siryf Gwent i Pauline a Roger. Dyma ddau sydd wedi rhoi cymaint i faes llywodraeth leol ac wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau llawer iawn o bobl dros eu gyrfaoedd.”
Ychwanegodd y Cyngh. Laura Wright, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy: “Rwyf mor bles fod ymroddiad ac ymrwymiad Pauline Batty a Roger Hoggins wedi ei gydnabod yn y ffordd hon. Mae’r ddau wedi gwneud cyfraniad positif a sylweddol i gymunedau drwy eu gwaith, eu caredigrwydd a’u pendantrwydd i helpu eraill. Rwyf yn gwybod bod Roger a Pauline wedi ymrwymo i wasanaethu pobl Sir Fynwy, a hoffem ddiolch iddynt am bob dim y maent yn parhau i’w wneud.”
Roedd Pauline Batty, sy’n Rheolwr Arlwyo Strategol ar gyfer Cyngor Sir Fynwy, wedi ei henwebu gan y Cynhg. Mary Ann Brocklesby a ddywedodd: “Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae Pauline wedi arwain y ffordd wrth sicrhau bod plant Sir Fynwy yn derbyn prydau bwyd maethlon yn yr ysgol, gan goginio bob dim yn ffres.
“Mae Sir Fynwy ond yn medru cyflwyno prydau ysgol i blant sydd yn y dosbarth derbyn, Blynyddoedd 1 a 2 yn sgil gwaith caled Pauline a’r tîm. Rydym ymhlith llond llaw o Awdurdodau Lleol yn unig sydd yn gwneud hyn; mae Llywodraeth Cymru ond yn disgwyl i Awdurdodau Lleol i gyflwyno hyn i ddosbarthiadau derbyn yn ystod y cam cyntaf o gynnig prydau ysgol am ddim i bawb, ac felly, mae’r tîm wedi mynd y tu hwnt i’r galw.
“Mae Pauline nid yn unig yn drefnydd a’n rheolwr heb ei hail ond mae ganddi weledigaeth hefyd ac yn credu’n gryf yn ei gwaith. Mae Pauline am weld pob plentyn yn deall pwysigrwydd bwyd a’r rôl y mae bwyd maethlon yn chwarae wrth helpu ni gynnal ein lles. Mae’n annog pobl i feddwl am yr elfen gymdeithasol o fwyta gyda’n gilydd, y sgiliau bwrdd sydd yn caniatáu hyn i ddigwydd a’n gwybod am y ryseitiau fel bod modd coginio bwyd maethlon yn rhad gartref ar unrhyw amser. Dyma’r hyn ddylai fod yn rhan o arwylo mewn ysgolion, ac mae Pauline wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn sicrhau bod hyn yn digwydd, gan weithio gyda staff a’u hyfforddi er mwyn rhannu ei gweledigaeth,” dywedodd y Cyngh. Brocklesby.
Yn ystod Covid, roedd Pauline Batty, a chydweithwyr wedi newid eu rôl gan symud o drefnu prydau ysgol i gydlynu Cyfarpar Diogelwch ar gyfer staff. At hyn, mae Pauline yn goruchwylio’r gwasanaeth Pryd ar Glud y Cyngor. Mae wedi ei drefnu mewn modd sydd yn sicrhau bod pryd o fwyd yn rhan o ofal yn y cartref, staff wedi eu hyfforddi i ymateb i’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth fel pobl sydd ag anghenion ac o bosib yn croesawu rhywun yn treulio amser gyda hwy pan eu bod yn bwyta eu pryd bwyd a hefyd yn gweithio’n agos gyda’r staff gofal cymdeithasol ac asiantaethau cymorth eraill. Mae Pryd ar Glud yn rhan bwysig o’r gwaith ataliol a gofal cymdeithasol integredig sydd yn ceisio cefnogi cynnydd tuag at fyw’n annibynnol.
Yn y seremoni, roedd gwaith Roger Hoggins hefyd wedi ei gydnabod. Roedd Roger wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl 47 mlynedd o wasanaeth di-dor i Sir Fynwy o fewn y Cyngor. Dechreuodd fel swyddog gwasanaethau rheoli dan hyfforddiant cyn dod yn uwch arweinydd.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Paul Matthews: “Mae cyfraniad Roger wedi bod yn sylweddol yn ogystal â’i ffordd o weithio. Bydd yn golled enfawr i ni gyd o fewn y Cyngor. Mae’r ffaith ei fod nawr wedi dod yn Gynghorydd Tref yng Nghyngor Tref Trefynwy yn amlygu ei ymroddiad parhaus i wasanaeth cyhoeddus. Mae’n ŵr diymhongar iawn ac nid yw’n gwerthfawrogi’r effaith bositif y mae’n ei gael ar eraill. Mae’n camu nôl yn y cyfnodau da ond yn camu ymlaen yn y cyfnodau anodd. Mae’n un o’r gweision cyhoeddus gorau yr wyf erioed wedi gweithio â hwy.”