Mae Diwrnod Shwmae yn ddiwrnod lle y mae pawb yn cael eu hannog i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg, gyda’r nod o ddangos fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb, nid oes ots beth yw eu sgiliau iaith Gymraeg.
Roedd y Cyngor wedi cynnal digwyddiad ar ddydd Gwener, 14eg Hydref yn Hyb y Fenni mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy (BGTM), mudiad sydd yn gweithio yn y gymuned leol mewn sawl ffordd er mwyn creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, i ddathlu’r diwrnod yn y gymuned. Roedd yna gyfle i rannu stori yn y Gymraeg i blant o dan 5 mlwydd oed, adnoddau lliwio Shwmae, gwybodaeth am ddosbarthiadau Cymraeg drwy gyfrwng Coleg Gwent a gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg, gyda hyn oll yn cael ei fwynhau gyda Phicau ar y Mae o Bopty’r Farchnad er mwyn dathlu mewn steil.
Dathlwyd Diwrnod Shwmae yn gyntaf yn 2013 er mwyn hyrwyddo’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda Shwmae ac mae hyn wedi ei ddathlu yn flynyddol ers hynny. Nod y digwyddiadau yma yw dangos fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb ohonom, nid oes ots beth yw eich sgiliau iaith Gymraeg.
Er bod Diwrnod Shwmae yn ddigwyddiad blynyddol, mae’r Cyngor yn gweithio drwy gydol y flwyddyn er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Roedd cyfrifiad 1991 yn dangos bod ychydig dros 1,800 o bobl yn siarad Cymraeg yn Sir Fynwy. Ond mae’r arolwg diweddaraf o’r boblogaeth yn dangos bod mwy na 14,800 o bobl yn siarad Cymraeg yn Sir Fynwy.
Dywedodd y Cyngh. Tudor Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae’n ffantastig bod yr iaith Gymraeg yn cael ei dathlu yn aml yn ein cymunedau. Mae mor bositif i weld y nifer o siaradwyr Cymraeg yn cynyddu a bod mwy o gyfleoedd i ddysgu am yr iaith ar draws y sir.”
Am fwy o wybodaeth am yr iaith Gymraeg yn Sir Fynwy, ewch os gwelwch yn dda i Sir Fynwy a’r Iaith Gymraeg – Sir Fynwy