Skip to Main Content

Wrth i waith ar safle Ysgol Brenin Harri VIII ddechrau, mae Tîm Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn cynnal sesiynau ymgysylltu yn ysgolion cynradd y Fenni i gefnogi disgyblion i ddeall cynaliadwyedd a dyluniad ysgolion cynaliadwy.

Tim Bird, Ymgynghorydd Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

Wedi i’r cynlluniau ar gyfer yr ysgol 3-19 newydd gael y golau gwyrdd gan Lywodraeth Cymru, y Cyngor Llawn a’r Pwyllgor Cynllunio yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae’r rhaglen adeiladu wedi gwneud dechrau llwyddiannus.  Er enghraifft, mae’r safle bws a man gollwng a chasglu newydd i rieni ar Lôn Pen-y-Pound bellach ar agor ac yn gweithredu’n llwyddiannus.

Safle bws a man gollwng a chasglu newydd i rieni ar Lôn Pen-y-pound

Trwy ymgynghoriadau, mae Cynghorau Myfyrwyr wedi helpu’r Tîm Dylunio i wneud penderfyniadau pwysig ar agweddau megis dysgu awyr agored, dylunio yn yr ystafell ddosbarth a chynaliadwyedd.

Ar ôl dychwelyd i’r flwyddyn ysgol newydd, mae Tîm Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu’r Cyngor wedi gallu rhoi adborth i ddisgyblion sut mae eu syniadau wedi eu hymgorffori yn y dyluniad, yn ogystal â rhannu â nhw nodweddion cynaliadwyedd yr ysgol newydd. Yr ysgol 3-19 newydd fydd ysgol Carbon Sero Net (CSN) cyntaf Sir Fynwy.

Gweithdy ‘Adeiladau Cynaliadwy’ gyda modelau a wnaed gan ddisgyblion

Mae’r Tîm Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu wedi bod yn ymweld ag ysgolion cynradd yn nalgylch ysgol Brenin Harri’r VIII, gan gynnal gweithdy ‘Adeiladau Cynaliadwy’.  Mae’r gweithdai’n cynnwys dosbarthiadau Blwyddyn 5 a 6 a allai gofrestru yn yr ysgol newydd ym mis Medi 2023 a Medi 2024.

Tim Bird yn siarad â disgyblion am yr hyn sy’n gwneud ysgol yn gynaliadwy

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Rwyf mor falch o weld y cynnydd anhygoel sy’n cael ei wneud i safle’r ysgol 3-19 Y Fenni.  Bydd cael ysgol gynaliadwy, CSN yn Sir Fynwy yn gam enfawr i’r cyfeiriad cywir i’r genhedlaeth iau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld faint mae’r sesiynau ymgysylltu â disgyblion wedi effeithio’n gadarnhaol ar broses ddylunio’r ysgol newydd, wrth i ddisgyblion hefyd addysgu eu hunain ar faterion pwysig, megis cynaliadwyedd a lleihau ôl troed carbon.”

Disgyblion yn gwylio Animeiddiad o’r Ysgol Newydd

Os hoffech ddarganfod mwy o wybodaeth am yr ysgol 3-19 yn Y Fenni, cliciwch yma: Ysgol Pob Oed yn Y Fenni – Sir Fynwy