
Cas-gwent fydd y dref ddiweddaraf yn Sir Fynwy i elwa cyn hir o’r Prosiect Gofodau Cymunedol sydd yn ceisio gwella’r mannau gwyrdd ar gyfer natur a’n helpu cynnig cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles. Mae modd gwneud hyn mewn sawl ffordd fel plannu coed, creu mannau i’r gymuned i dyfu bwyd a phlannu blodau gwyllt ar gyfer y pryfed peillio. Bydd y prosiect yn cael ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru, sef rhaglen Llefydd Lleol ar gyfer Natur a bydd yn creu llefydd i ddwyn cymunedau ynghyd. Byddant yn fannau hefyd i weld byd natur a bod yn weithgar.
Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae creu gofodau sydd yn cefnogi natur yn ein trefi yn dda i bobl ac i fyd natur. Mae’n helpu i ddiogelu bioamrywiaeth a’n rhoi gofodau hyfryd i ni eu mwynhau ac ymlacio ynddynt.”
Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Byw a Chynhwysol: “Dyma gyfle ffantastig i ddarparu rhwydwaith ar gyfer bywyd gwyllt a phobl yng nghanol ein trefi ac ymgysylltu gyda natur sydd yn dda ar gyfer iechyd a lles pawb. Rydym am weld cynifer o bobl ag sydd yn bosib o Gas-gwent a’r ardaloedd cyfagos yn cael dweud eu dweud am eu Gofodau Natur Cymunedol fel eu bod yn cynnig yr hyn sydd orau i’r dref a’r bobl.”

Er mwyn deall yn llawn yr hyn y mae cymuned Cas-gwent yn dymuno, mae Swyddogion y Cyngor yn gweithio gyda’r Cynghorwyr Tref a Sir a grwpiau lleol eraill sydd â diddordeb. Ewch i’r ddolen www.monlife.co.uk/cy/community-nature-spaces/ lle y mae yna ddolen i gwblhau holiadur am fannau gwyrdd yng Nghas-gwent, sut ydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd ac am eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd yna gopïau papur ar gael hefyd yn Hyb Cymunedol Cas-gwent. Bydd rhan gyntaf yr ymgynghoriad yn cau ar 11eg Tachwedd ond mae croeso i randdeiliaid a thrigolion i gysylltu gyda ni ar unrhyw adeg am y prosiect.