Skip to Main Content
Cymorth Menopos sefyll gyda'n gilydd

Ar Ddiwrnod Menopos y Byd ar ddydd Mawrth 18fed Hydref, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi mai hwy yw’r awdurdod lleol fydd y cyflogwr diweddaraf yn y DU i gofrestru ar gyfer Addewid Menopos yn y Gweithle.   

Roedd yr addewid wedi dechrau yn 2021 yn dilyn ymgyrch gan yr elusen iechyd i fenywod, Wellbeing of Women, mewn ymateb i ddiffyg cymorth a gwybodaeth am y menopos mewn gweithleoedd ar draws y wlad. Mae hyn nawr wedi ei gefnogi gan nifer o gyflogwyr, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru,  y BBC, y Swyddfa Dywydd a’r Post Brenhinol. Cyngor Sir Fynwy yw un o’r Cynghorau cyntaf yng Nghymru i arwyddo’r addewid.

Nod yr addewid yw hyrwyddo’r gefnogaeth a’r ddealltwriaeth ymhlith cyflogwyr a’r aelodau  staff sydd o bosib yn mynd drwy’r menopos. Mae menywod sy’n hŷn na 50 ymhlith y grŵp  sydd yn tyfu gyflymaf yng ngweithlu’r DU yn ôl y ffigyrau diweddaraf ond amcangyfrifir y bydd tua  900,000 yn gadael eu gyrfaoedd gan nodi fod menopos yn ffactor allweddol. Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn profi symptomau’r menopos ac mae rhai symptomau yn medru cael effaith sylweddol ar weithgareddau bob dydd. Mae hyn yn medru cynnwys diffyg cwsg, problemau’n cofio pethau, pyliau o wres, mwy o straen a cholli hyder.  

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby: “Rwy’n bles ac yn falch ein bod wedi ymrwymo i’r  Addewid Menopos yn y Gweithle. Fel cyflogwr, mae’n hynod bwysig ein bod yn cefnogi ac yn rhoi’r wybodaeth i gydweithwyr – yn cefnogi’r sawl sydd yn profi’r menopos a’n rhannu’r wybodaeth am y menopos gyda phawb fel bod pawb yn meddu ar ddealltwriaeth well o effaith menopos.”

Dywedodd y Cyngh. Catherine Fookes, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb: “Ers ychydig o amser yma yng Nghyngor Sir Fynwy, rydym wedi cynnal grwpiau cymorth ar gyfer menopos a sefydlwyd gan gydweithwyr ar gyfer cydweithwyr. Mae’r cyfarfodydd Caffi Menopos yn darparu gofod pwysig i rannu profiadau, dod o hyd i gefnogaeth a  chynnig help. Rydym am barhau i sgwrsio am menopos ac wrth ein bodd yn arwyddo’r Addewid Menopos yn y Gweithle. Rydym angen gwneud pob dim posib er mwyn sicrhau ein bod yn cadw gafael ar aelodau staff talentog a chynhyrchiol sydd yn profi menopos.”

Am fwy o wybodaeth am yr  Addewid Menopos yn y Gweithle, ewch i Hafan – Wellbeing Of Women  

Cefndir yr Addewid Menopos yn y Gweithle

·        Lansiwyd yr Addewid Menopos yn y Gweithle yn 2021 gan Wellbeing of Women, mewn cydweithrediad gyda Chylchgrawn Hello! a Bupa. Mae’r ymgyrch yn gawl ar bob cyflogwr i arwyddo’r Addewid Menopos yn y Gweithle ac ymrwymo i ddarparu cymorth menopos.

·         Mae mwy na  1000 o gyflogwyr gan gynnwys BBC, AstraZeneca, Royal Mail, Co-op, Tesco, John Lewis, a llawer o ysbytai, ysgolion, prifysgolion a mudiadau eraill wedi arwyddo’r addewid, sy’n cynrychioli mwy na 11 miliwn o weithwyr ar draws y wlad. Mae llawer o fudiadau yn cyflwyno polisïau, canllawiau, cyngor, hyfforddiant, gweithdai a grwpiau cymorth rhwng cymheiriaid  ar gyfer menopos.

·         Roedd arolwg y Pwyllgor Menywod ac Anghydraddoldeb yn dangos bod 99% o 2,000 o fenywod a oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg wedi profi o leiaf un symptom a oedd wedi effeithio arnynt yn negatif yn y gweithle. Diffyg cwsg oedd y symptom mwyaf cyffredin (81%), a phroblemau’n cofio pethau a/neu fethu canolbwyntio  (75%) a phyliau o wres (72%). Roedd hyn wedi arwain at fethu canolbwyntio (72%), cynyddu straen (70%) a cholli hyder (67%).

·        Mae adroddiad gan y Chartered Institute of Personal Development (CIPD) yn cyfeirio at ymchwil gan Bupa sydd yn amcangyfrif fod bron i filiwn o fenywod yn y DU wedi gadael eu swyddi yn sgil menopos.