Gwisgodd mwy na mil o blant Sir Fynwy eu hesgidiau rhedeg a’u dillad chwaraeon y mis diwethaf i gymryd rhan mewn wythnos o hwyl chwaraeon. Daeth digwyddiad chwaraeon Traws Gwlad 2022 â 27 ysgol gynradd o bob rhan o’r sir ynghyd. Bu plant yn dangos i’r oedolion sut i’w wneud gydag agwedd wych, anogaeth a gwaith tîm drwy bob digwyddiad.
Roedd rhaglen Traws Gwlad 2022, a drefnwyd gan MonLife, yn arbennig ar gyfer plant ysgol gynradd rhwng saith a 10 oed. Roedd y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon a rhedeg, yn gyfle rhy wych i’w golli. Yn gymaint felly, fel y gwnaeth 90% o’r holl ysgolion cynradd yn Sir Fynwy gymryd rhan. Pan ddaw i ffitrwydd a llesiant, mae plant Sir Fynwy yn bendant yn arwain y ffordd.
Dywedodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol ac Egnïol: “Mae athrawon, disgyblion a theuluoedd wedi rhoi cefnogaeth wych i raglen digwyddiadau Traws Gwlad. Mae’n wych fod 27 ysgol gynradd yn y sir wedi cymryd rhan. Gobeithio y bydd rhai o’r bobl ifanc yma yn awr wedi cael blas am chwaraeon ac am redeg. Pwy sy’n gwybod, efallai y byth rhai ohonynt yn sêr athletau proffesiynol y dyfodol. Drwy ddod yn fwy egnïol, maent eisoes ar y llwybr cywir.”
Roedd y digwyddiad Traws Gwlad pell-gyrhaeddol – y cyntaf ers y pandemig – yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd ac yn, bwysicaf oll, i gael hwyl. Dywedodd un rhiant a fu’n bresennol: “Roedd y digwyddiad Traws Gwlad y bore yma yn wych ac fe wnaeth fy merch ei fwynhau’n fawr iawn. Mae eisiau rhoi ei henw ar gyfer y Parkrun Iau nawr!”
Os gwnaethoch golli’r wythnos o hwyl, nid yw’n hwyr i gymryd rhan. Cynhelir Parkrun Iau yn Dixon Trefynwy, Parc Bailey (y Fenni) ac yn Rogiet, felly gwisgwch eich esgidiau rhedeg a mynd draw. I gael mwy o wybodaeth am wyliau ysgolion cynradd neu fanylion eich Parkrun lleol anfonwch e-bost at sport@monmouthshire.gov.uk