Cynhaliwyd Proclamasiwn y Sofran newydd i bobl Sir Fynwy y tu allan i Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga am 3:30pm ar yr 11eg Medi 2022.
Mynychodd aelodau’r cyhoedd ynghyd â Chynghorwyr Sirol, cyn-Gadeirydd y Cyngor Sir, Cynghorwyr Tref a Chymuned a’u teuluoedd.
Gwnaed y Proclamasiwn y tu allan i Neuadd y Sir gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Laura Wright. Gwnaed y cyhoeddi yn Gymraeg gan y Cynghorydd Sirol Tudor Thomas, gyda’r Athro Simon Gibson, CBE, Dirprwy Raglaw Gwent yn arwain y digwyddiad.
Dywedodd Cadeirydd Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Laura Wright: “DUW A GADWO’R BRENIN!”.