Daw’r cyfle i roi adborth ar yr ymgynghoriad hwn i ben ar yr 16eg o Fedi 2022
Beth yw eich barn chi?
Cyflwyniad
Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2014, yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu trafnidiaeth cartref i’r ysgol, lle mae plant a phobl ifanc yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Bob blwyddyn mae gofyn i awdurdodau lleol adolygu eu Polisi Trafnidiaeth ac ymgynghori ar unrhyw newidiadau i’r trefniadau presennol.
Er nad yw Sir Fynwy wedi ceisio gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’w Pholisi Trafnidiaeth, mae canllawiau newydd wedi’u drafftio er mwyn gwneud ein harferion gweithredol yn gliriach ac yn fwy tryloyw i rieni, dysgwyr, a rhanddeiliaid eraill. Hoffem gael eich barn ynglŷn â’n Polisi Trafnidiaeth a chanllawiau newydd fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn ystyried pob safbwynt.
Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu hysbysu’r Polisi Trafnidiaeth cyn y bydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ym mis Medi. Bydd y polisi mabwysiedig ac unrhyw newidiadau yn dod i rym ym mis Medi 2023 ac yn berthnasol i bob dysgwr sy’n cael mynediad i drafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd rhieni dysgwyr sy’n cychwyn addysg gynradd neu uwchradd yn 2023 yn ymwybodol o’r meini prawf Polisi Trafnidiaeth a chymhwyster cyn cyflwyno ceisiadau ar gyfer yr ysgol a ffefrir ganddynt.
Beth yw’r meini prawf cymhwysedd?
Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu trafnidiaeth o’r cartref am ddim os yw dysgwr yn byw mwy na’u pellter cerdded statudol o’r ysgol addas agosaf (2 filltir i ysgol gynradd a 3 milltir i’r ysgol uwchradd).
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi penderfynu gwella’r ddarpariaeth hon ac felly bydd yn cynnig trafnidiaeth am ddim o’r cartref i’r ysgol i’r ysgol mwyaf addas neu ysgol ddalgylch agosaf y dysgwyr, os ydynt yn byw mwy na 1.5 milltir o’u hysgol gynradd neu 2 filltir o’u hysgol uwchradd.
Wrth benderfynu a yw ysgol yn addas, byddwn yn ystyried:
- Priodoldeb oedran – mae hyn yn ymwneud â phresenoldeb y dysgwr mewn lleoliad cynradd neu uwchradd.
- Priodoldeb y gallu – bydd hyn yn ymwneud â mynychu ysgol prif ffrwd neu gyfrwng Cymraeg neu addysg ffydd.
- Gofynion addysg arbennig – os oes gan ddysgwr ddatganiad o anghenion addysg arbennig sydd felly’n pennu ysgol benodol.
Wrth asesu addasrwydd, ni fyddwn yn ystyried canlyniad arolygiadau Estyn, pryderon na dewisiadau unigolion o ran ysgolion penodol na dewisiadau rhieni.
Os yw eich ysgol addas agosaf yn llawn, bydd cymhwysedd yn cael ei asesu’n seiliedig ar yr ysgol addas nesaf sydd ag argaeledd i dderbyn y dysgwr. Pan fo dysgwr yn gorfod newid ysgolion oherwydd achosion o fwlio, dim ond lle mae’r Gwasanaeth Lles Addysg neu’r Uned Mynediad wedi bod yn rhan o’r cynllun a chefnogi’r newid ysgolion y bydd trafnidiaeth am ddim i’r ysgol newydd yn cael ei ddarparu.
Prif Newidiadau
- Trafnidiaeth i blant 4 oed – Byddwn yn parhau i ddarparu trafnidiaeth am ddim o’r cartref i’r ysgol am y rhai 4 oed sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd OS ydynt yn gallu clymu a datglymu eu gwregysau sedd eu hunain. Byddwn yn gofyn i rieni neu warcheidwaid gadarnhau’n ysgrifenedig eu bod yn gallu gwneud hynny. Os yw trafnidiaeth wedi’i ddyfarnu ac nad yw’r dysgwr yn gallu clymu a datglymu eu gwregys diogelwch eu hunain, byddant yn cael eu tynnu o’r drafnidiaeth. Fodd bynnag, byddant yn gallu ailddechrau teithio cyn gynted ag y gallant fodloni meini prawf clymu a datglymu eu gwregys sedd eu hunain.
Mae’r gofyniad hwn yn cael ei gyflwyno i sicrhau trafnidiaeth ddiogel i bob dysgwr ac i adlewyrchu gofynion diogelu sy’n atal gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr rhag cyswllt corfforol â theithwyr.
- Darparu trafnidiaeth i ysgolion Cymraeg neu ysgolion Ffydd – Byddwn yn darparu trafnidiaeth am ddim o’r cartref i’r ysgol i’r dysgwyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd i’w hysgol cyfrwng Cymraeg neu ffydd addas agosaf. Os bydd rhieni’n dewis anfon eu plant i ysgol nad yw’n cael ei hasesu gan y tîm Comisiynu fel yr ysgol cyfrwng Cymraeg neu ffydd addas agosaf, ni fydd trafnidiaeth am ddim yn cael ei ddarparu.
- Dysgwyr â phreswylfeydd deuol – Os bydd dysgwyr yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, byddwn yn darparu trafnidiaeth i ddau gartref yn Sir Fynwy, os ydynt mewn trefniant ar y cyd yn unol â phenderfyniad Llys Teulu. Bydd hyn yn sicrhau bod rhieni’n gallu bodloni amodau llys sy’n cael Gorchymyn Trefniant Plant a rennir. Os hoffech wneud cais am drafnidiaeth dan yr amgylchiadau hyn, dylai’r dysgwr fod yn mynychu ei ysgol addas agosaf (i un o’u cartrefi) a bydd angen i ni weld tystiolaeth o’r Gorchymyn Trefniant Plant yn cadarnhau gorchymyn gofal a rennir. Ni fyddwn yn darparu trafnidiaeth i ddau gartref os oes gorchymyn sy’n pennu bod y plentyn/plant i fyw gydag un rhiant a threulio amser gydag un arall. O dan yr amgylchiadau hyn, dim ond i’w cartref dynodedig y bydd trafnidiaeth yn cael ei ddarparu.
- Dysgwyr sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig – Bydd trafnidiaeth yn cael ei ddarparu ar sail datganiad asesedig y dysgwr. Bydd y meini prawf pellter yn berthnasol ond bydd yr asesiad ond yn ystyried yr ysgolion hynny sy’n gallu diwallu anghenion asesedig y dysgwr. Os nad yw dysgwr yn gallu cerdded â chymorth neu fel arall oherwydd cyflyrau meddygol, bydd trafnidiaeth ddewisol yn cael ei darparu waeth beth yw’r pellter o’u cartref i’w hysgol. Bydd y dyfarniad dewisol yn cael ei adolygu’n flynyddol, a gofynnir i rieni ddarparu gwybodaeth feddygol diwygiedig. Mewn amgylchiadau lle mae anabledd y dysgwyr yn golygu mai’r cyngor meddygol yw na fydd eu symudedd yn gwella yn ystod eu haddysg gynradd neu uwchradd, gellir dyfarnu trafnidiaeth ddewisol am hyd eu haddysg statudol (5 – 16 oed).
- Dysgwyr blynyddoedd ysgol 10 ac 11 sy’n symud i dŷ newydd – Byddwn yn darparu trafnidiaeth i ddysgwyr sy’n byw yn Sir Fynwy ac a oedd cyn hynny yn mynychu eu hysgol addas neu ddalgylch agosaf ac maent yn bodloni’r meini prawf pellter. Os bydd dysgwr yn symud allan o Sir Fynwy ond yn dal i ddymuno mynychu ysgol yn Sir Fynwy, bydd angen iddyn nhw ofyn am arweiniad gan Adran Drafnidiaeth yr awdurdod lleol y maen nhw bellach yn byw ynddo. Ni fydd Sir Fynwy yn darparu trafnidiaeth i ddysgwyr sy’n symud tu hwnt i ffiniau ein sir.
- Cludiant ôl-16 – Gall dysgwyr ôl-16 wneud cais am deithio rhatach os ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, ond gall y man codi fod dros filltir o’u cartref, ond dim mwy na 2 filltir. Bydd mannau codi mewn mannau dynodedig, fel arfer arosfannau bysiau ac fe allai fod yn wahanol i bwynt codi blaenorol os oeddynt yn cael mynediad i drafnidiaeth am ddim yn flaenorol. Bydd trafnidiaeth yn cael ei gadarnhau o fewn 10 diwrnod ar ôl dechrau’r flwyddyn academaidd. Does dim modd cychwyn teithio cyn derbyn dyfarniad ffurfiol a darparu tocyn bws.
Ni allwn warantu y bydd holl deithio Ôl-16 yn cael ei gadarnhau cyn dechrau’r flwyddyn academaidd oherwydd bod yr amserlenni byr rhwng canlyniadau TGAU yn cael eu cadarnhau a’r flwyddyn academaidd yn cychwyn. Bydd angen i ni ganfod lle mae gan drafnidiaeth seddi gwag, pwy sydd wedi gwneud cais amdanynt ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu, a’r effaith ar y llwybr arfaethedig i gasglu’r teithwyr. Wrth ystyried ceisiadau, ni fyddwn yn ystyried ceisiadau sy’n arwain at ymestyn amseroedd teithio y tu hwnt i bellteroedd teithio arferol (45 munud ar gyfer cynradd a 60 munud i’r uwchradd).
- Cludiant consesiynol – Bydd seddi consesiynol yn cael eu cynnig lle mae seddi gwag ar gael, ond dysgwyr ôl-16 a fydd yn cael blaenoriaeth. Os bydd seddi gwag yn parhau, bydd seddi’n cael eu dyrannu ar sail pwy sy’n byw bellaf i ffwrdd o’u hysgol. Wrth ystyried ceisiadau consesiynol, ni fyddwn yn gallu ystyried unrhyw geisiadau sy’n arwain at ymestyn amseroedd y daith y tu hwnt i bellteroedd teithio arferol (45 munud ar gyfer cynradd a 60 munud i’r uwchradd).
- Asesiad o’r Llwybrau Cerdded sydd ar gael – Asesir llwybr cerdded ar y pellter byrraf rhwng y cartref a’r ysgol (giât yr ysgol agosaf at eu cartref). Cynhelir yr asesiad yn seiliedig ar Ddeddf Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) ac yn benodol y protocol asesu risg penodedig. Bydd aseswyr hefyd yn ystyried Canllawiau Diogelwch ar y Ffyrdd y DU. Bydd yr asesiad yn tybio y bydd pob dysgwr oed cynradd yng nghwmni oedolyn priodol.
Mae’r llwybrau cerdded sydd ar gael yn cael eu hadolygu’n barhaus i adlewyrchu newidiadau yn yr isadeiledd llwybrau troed lleol. Os yw asesiad yn arwain at lwybr a ddynodwyd yn flaenorol yn anniogel yn cael ei ail-gategoreiddio fel un sydd ar gael, bydd trafnidiaeth am ddim yn cael ei dynnu’n ôl o ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r oedi cyn tynnu’r ddarpariaeth yn ôl er mwyn rhoi cyfle i rieni a dysgwyr baratoi ar gyfer y newid.
- Pwyntiau Casglu a Gollwng – Gofynnir i ddysgwyr gwrdd â cherbydau mewn mannau casglu a gollwng dynodedig a fydd hyd at filltir o’u cartref. Lle bynnag y bo modd, bydd y man dynodedig yn safle bws cofrestredig, ac os nad yw, bydd gweithredwr y llwybr yn cynnal asesiad risg er mwyn asesu ei ddiogelwch. Cyfrifoldeb rhiant fydd sicrhau diogelwch eu plant i ac o’r man casglu.
Mae’r Polisi Trafnidiaeth arfaethedig ar gael fel dogfen ar wahân neu mae modd ei weld yma. Os hoffech gael copi caled wedi’i ddanfon atoch, cysylltwch â ni ar 01633 644777 neu fel arall anfonwch e-bost atom ar passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk mae copïau caled hefyd ar gael yn holl Hybiau Sir Fynwy.
Mae Sesiynau Galw Heibio ar gael i unrhyw un sydd eisiau trafod y polisi arfaethedig:
- Dydd Iau 25ain Awst yn Hyb Cil-y-coed – 9am tan 12.30pm
- Dydd Gwener 9fed Medi yn Hyb Cas-gwent – 12.30pm tan 3.30pm
- Dydd Mawrth 13eg Medi yn Hyb y Fenni – 9.30am tan 1pm
- Dydd Mercher 14eg Medi yn Hyb Trefynwy – 9am tan 12.30pm
- Dydd Iau 15fed Medi yn Hyb Brynbuga – 9am tan 12pm, Hyb Gilwern – 1pm tan 3.30pm
Eich barn
Hoffem eich barn am y Polisi Trafnidiaeth arfaethedig ac yn benodol i’r newidiadau allweddol a drafodir yn y ddogfen hon. Byddem yn ddiolchgar pe gallech lenwi’r ffurflen ganlynol: