Mae gwyliau’r ysgol yn medru rhoi pob math o bwysau ar deuluoedd. Er mwyn helpu gyda phrydau bwyd, bydd rhaglen Gwella Bwyd a Hwyl Llywodraeth Cymru yn darparu prydau bwyd iachus a gweithgareddau yn ystod gwyliau’r haf.
Mae Bwyd a Hwyl, yn Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, sydd yn rhaglen addysg sydd yn darparu bwyd ac addysg am faetheg, gweithgarwch corfforol, sesiynau gwella a phrydau bwyd iachus i blant yn ystod gwyliau’r ysgol.
Wedi dechrau fel cynllun peilot gan Gyngor Caerdydd yn 2015, mae Bwyd a Hwyl wedi datblygu i fod yn rhaglen genedlaethol sydd yn cael ei hariannu’n llwyr gan Lywodraeth Cymru a’i gweinyddu gan Gymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru. Yn 2021, roedd 137 o ysgolion wedi cymryd rhan ac wedi darparu mwy na 7500 o lefydd i blant bob dydd ac mae’r rhaglen yn cael ei chynnal mewn sawl ysgol gynradd yn Sir Fynwy dros yr haf. Mae ysgolion cynradd Dewstow, Kymin View, Overmonnow, Deri View a Thornwell oll yn cymryd rhan yn y rhaglen Bwyd a Hwyl.
Roedd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw wedi mynychu’r sesiynau Bwyd a Hwyl yn Ysgol Gynradd Deri View ar ddydd Iau, 4ydd Awst. Dywedodd y Cyngh. Burch “Roedd yn wych i weld yr hyn y mae tîm MonLife yn gwneud ar ran plant dros wyliau’r haf ar draws y sir. Mae’r sesiynau Bwyd a Hwyl yn ffordd wych o gadw plant yn brysur, cael hwyl a’n cadw mewn cysylltiaid gyda’u ffrindiau tra hefyd yn mwynhau bwyd hyfryd a maethlon. Hoffem ddweud diolch o galon i bawb sydd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod modd cynnal y sesiynau pwysig yma, ac yn fwy pwysig, yn sicrhau bod y plant yn cael amser ardderchog dros wyliau’r haf.”