Yn seremoni fawreddog Gwobrau Cyn-filwyr Cymru yng Nghaerdydd ddoe (dydd Iau 30ain Mehefin) enwyd Cyngor Sir Fynwy yn Gyflogwr y Flwyddyn am ei gefnogaeth i gyn-bersonél y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd.
Fel cyflogwr, mae’r Cyngor wedi dangos yn rhagweithiol gymwysterau sy’n ystyriol o’r lluoedd arfog yn ei brosesau recriwtio a dethol, ac wedi sicrhau bod ei weithlu’n ymwybodol o bolisïau cadarnhaol yr awdurdod tuag at faterion sy’n wynebu pobl sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu. Daw’r wobr hon ddwy flynedd ar ôl i’r Cyngor dderbyn gwobr Aur yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.
Ym mis Ionawr 2020, cadarnhaodd y Cyngor hefyd ei ymrwymiad i weithio gyda chymuned y Lluoedd Arfog drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog. Llofnodwyd y cyfamod gyda’r pum Cyngor Tref (Y Fenni, Trefynwy, Brynbuga, Cil-y-coed a Chas-gwent), gan wneud Sir Fynwy, ar y pryd, yr unig awdurdod lleol yn y DU i gael y prif awdurdod a’r holl gynghorau tref yn llofnodi’r cyfamod ar y cyd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Rwyf wrth fy modd ac mae’n anrhydedd ein bod wedi cael ein henwi’n Gyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru. Diolch i bawb ar draws y sefydliad y mae eu hymdrechion yn y maes pwysig hwn wedi cael y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.
“Rydym yn ffodus bod gennym gydweithwyr yn gweithio gyda ni a fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn flaenorol, felly rydym yn gwybod yn uniongyrchol am y cyfraniad aruthrol a’r sgiliau y gall y rhai sydd wedi gwasanaethu eu gwlad eu cynnig i ystod anhygoel o amrywiol o rolau o fewn Cyngor Sir Fynwy. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi a chynnig cyfleoedd i gyn-bersonél y Lluoedd Arfog. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu sut i weithio gyda ni i gysylltu â’n tîm i ddechrau’r sgwrs hon.”
Ychwanegodd Pencampwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Peter Strong: “Mae ein hymrwymiad parhaus i gefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i ni. Mae’r unigolion hyn yn rhoi eu bywydau ar y lein i sicrhau ein bod yn gallu byw mewn cymdeithas ddiogel a theg, ac mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn eu hanrhydeddu yn yr un ffordd.”
Mae cymorth i’r rhai sydd wedi gwasanaethu hefyd yn cael ei gynnig gan Hwb Cymorth Cyn-filwyr Sir Fynwy a agorwyd yn ddiweddar, sy’n cyfarfod yn Llyfrgell y Fenni bob dydd Llun o 10am – 12pm.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith a’r prosiectau i gefnogi cydweithwyr yn y lluoedd arfog yn Sir Fynwy ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/y-lluoedd-arfog/ neu e-bostiwch: work4@monmouthshire.gov.uk