Mae Cyngor Sir Fynwy yn chwilio am brosiectau newydd ac arloesol sydd yn medru helpu mynd i’r afael gyda thlodi bwyd ac yn cynnig elfen ffres sy’n ategu at y prosiectau a’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael. Mae modd i grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, mudiadau’r sector cyhoeddus a busnesau i wneud cais am gyllid, hyd at uchafswm o £15,000.
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Food4Growth, prosiect newydd i gefnogi grwpiau a mentrau cymunedol er mwyn datblygu prosiectau arloesol sydd yn ymwneud â bwyd er mwyn helpu creu buddion cymdeithasol ac economaidd ar draws Caerffili, Torfaen a Sir Fynwy mewn partneriaeth gyda’r cynghorau yn yr ardaloedd yma. Mae Food4Growth yn rhan o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.
Er mwyn bod yn gymwys, bydd prosiectau yn Sir Fynwy angen dangos eu bod yn medru cwrdd ag un neu fwy o’r meini prawf canlynol:
- Gwella mynediad at fwyd maethlon a fforddiadwy
- Addysgu pobl ifanc a’u teuluoedd i ddatblygu sgiliau sydd yn ymwneud gyda bwyd
- Gwella’r hyn y maent yn gwybod am fwyd fforddiadwy maethlon
- Cysylltu pobl o bob oedran drwy goginio, tyfu a bwyta
- Rhannu sgiliau a gwybodaeth
- Cefnogi datblygiad busnesau
Mae’r cynllun yn medru cefnogi ystod o weithgareddau o fewn prosiectau; gan gynnwys costau staff, eitemau cyfarpar bychain, rhaglenni addysg, hyfforddiant a datblygu, prosiectau peilot, treuliau gwirfoddoli, marchnata ac ymchwil.
Mae’r sawl sydd yn gwneud cais i fod yn rhan o’r cynllun angen cyflwyno syniad arloesol a fydd yn mynd i’r afael gyda thlodi bwyd yn eu cymunedau neu’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu menter fusnes. Byddant angen dangos fod yna fuddion clir a chanlyniadau cynaliadwy ar gyfer y prosiect. Bydd unrhyw grwpiau/busnesau sydd yn derbyn cyllid yn gyfrifol am reoli’r prosiect ond bydd Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi’r prosiect i gyflawni eu hamcanion a’n gweinyddu’r trefniadau cyllidol a chontractwyr.
Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn 5pm ar 28ain Mai 2022. Bydd penderfyniadau ynglŷn ag a yw’r ceisiadau yn llwyddiannus yn cael eu gwneud gan Banel/Grŵp Gweithredu Lleol Gwledig o fewn 10 diwrnod gwaith ac yn ddibynnol ar system sgorio sydd yn seiliedig, ar y meini prawf gan mai swm penodol o gyllid sydd ar gael. Byddwn yn hysbysu ceisiadau llwyddiannus drwy gyfrwng e-bost. Rhaid i’r holl brosiectau sydd yn cael eu hariannu gan y cynllun hwn gael eu cwblhau erbyn Medi 2022.
Mae modd cyflwyno ceisiadau drwy e-bostio Deserie Mansfield yng Nghyngor Sir Fynwy:deseriemansfield@monmouthshire.gov.uk