Mae’r Gwanwyn wedi cyrraedd yn swyddogol ac mae’r tîm tiroedd yn Sir Fynwy eisoes yn gweithio er mwyn paratoi mannau agored y sir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Ar ddiwedd y llynedd, roedd tîm y Cyngor wedi gadael rhai ardaloedd fel safleoedd gaeafgwsg ar gyfer trychfilod gan adael hadau fel bwyd yno iddynt ar gyfer y gaeaf ynghyd â gwneud sawl peth arall er mwyn gofalu am y bywyd gwyllt. Nawr, wrth i ni ddynesu at yr haf, bydd y Cyngor yn dilyn trefniadau penodol wrth dorri’r borfa a oedd yn gymaint o lwyddiant y llynedd. Bydd hyn yn dechrau’n ‘gyntaf’ gyda’r rhan fwyaf o borfa yn cael ei dorri er mwyn ei ailosod. Wedi hyn, byddwn yn dilyn egwyddorion Natur Wyllt er mwyn creu gofod ar gyfer y bywyd gwyllt a’r planhigion peillio mewn mannau agored ar draws Sir Fynwy. Mae hyn yn cynnwys ymatal rhag torri’r borfa o dan y coed (a fydd yn lleihau’r straen ac afiechydon), creu dolydd ar hyd a lled ein mannau gorau a’r lleiniau ar ochr y ffyrdd. Byddwn yn torri’r borfa mewn rhai mannau yn llai aml ac yn ymatal rhag torri’r borfa mewn rhai mannau penodol tan yn hwyr yr haf neu’n gynnar yn yr hydref er mwyn caniatáu’r borfa a’r blodau i hau eu hadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r adborth a dderbyniwyd am Natur Wyllt yn dangos cefnogaeth fwyafrifol tuag at y gwaith hwn ac mae wedi cynnig adborth gwerthfawr am yr hyn sydd yn gweithio a sut i wella pethau eraill. Wrth ystyried yr adborth hwn, trafodaethau gyda’n criwiau gweithredol a’r ffaith nad yw Covid yn effeithio ar ein gwaith mwyach, bydd trigolion yn gweld ambell newid i’r drefn o dorri’r borfa eleni o’i gymharu â’r ddwy flynedd ddiwethaf a byddwn yn parhau i dderbyn adborth ac yn sicrhau bod mannau chwarae a chaeau chwaraeon yn cael eu torri fel sydd angen.
Mae Natur Wyllt yn rhan bwysig o ymateb y Cyngor i’r argyfwng bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Mae’r egwyddorion rheoli yn helpu peillyddion a thrychfilod eraill i ffynnu. Mae hyn felly yn cefnogi bywyd gwyllt a’n rhoi sicrwydd bwyd hirdymor. Mae’r newidiadau yma hefyd yn cynyddu faint o garbon sydd yn cael ei dynnu i mewn o’r pridd ac yn gwella gallu’r mannau agored i amsugno dŵr, lleihau dŵr ffo, llifogydd a llygredd ac yn gwneud ein hamgylchedd yn fwy dygn.
Tra y bydd y rhan fwyaf o fannau gwyrdd sydd gan y Cyngor yn elwa o ddulliau Natur Wyllt, mae rhai mannau yn eiddo i gymdeithasau tai ac nid ydynt oll wedi mabwysiadu egwyddorion Natur Wyllt, er ein bod ni fel Cyngor yn torri’r borfa yma fel rhan o gontract. Rydym yn gobeithio y bydd mwy o fudiadau yn mabwysiadu trefniadau penodol wrth dorri’r borfa drwy gefnogi’r prosiect Natur Wyllt rhanbarthol ac yn helpu’r sir i wella bioamrywiaeth a chefnogi bywyd gwyllt.
Os hoffech chi chwarae rhan, bydd arolwg Natur Wyllt newydd yn cael ei lansio ym mis Mai ac mae Sir Fynwy am glywed eich barn chi am sut i daro’r cydbwysedd cywir rhwng natur a hamdden, Am fwy o wybodaeth, ewch os gwelwch yn dda i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/natur-wyllt/ a www.monlife.co.uk/cy/monoutdoor-welsh/nature-isnt-neat/
neu ddilynwch @MonmouthshireCC a @Natureisntneat ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol.