Mae un o’r adeiladau amlycaf yng nghanol tref y Fenni, a fu’n wag am nifer o flynyddoedd, wedi cael ail wynt yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan ei berchnogion newydd gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Fynwy.
Mae’r adeilad deniadol yn 43 Stryd Frogmore, a godwyd mewn arddull Neo-Fenisaidd Fictoraidd, yn edrych dros y gofeb rhyfel yng nghanol tref y Fenni. Bu gan yr adeilad ran bwysig yn hanes y dref. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol fel gwesty ond mewn degawdau diweddar bu’r adeilad yn fwy adnabyddus am ei archfarchnadoedd. Ar ôl i Oakbridge Property Cyf brynu’r adeilad ym mis Mai 2021, daeth y llawr isaf yn fan lleol poblogaidd ar gyfer bwydydd a diodydd o’r Eidal. Fodd bynnag, y bwriad bob amser oedd dod â’r holl adeilad yn ôl yn fyw, yn arbennig ganfod defnydd newydd ar gyfer y lloriau uchaf a fu’n wag am ddegawdau.
Gan gydweithio gyda Gwagle, busnes sydd wedi ennill ei blwyf yng nghanol y dref, mae’r perchnogion wedi ailwampio’r adeilad yn sylweddol i alluogi Gwagle i ehangu ei weithgareddau ar ôl profi twf sylweddol yn dilyn y pandemig. Mae Gwagle yn cynnig gofod hyblyg ar gyfer rhannu mannau gwaith a swyddfeydd ar gyfer cymuned o weithwyr proffesiynol, llarwydd a chreadigol, gan ddarparu ar gyfer gwahanol ofynion a phroffesiynau. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Gwagle | Ymunwch â’n Gofod Cydweitho yn y Fenni.
Dywedodd Owen Davies, sefydlydd Gwagle: “Lansiwyd Gwagle yn 2019 pan wnaethom gael eiddo gwag yn Stryd Nevill i greu gofod rhannu gweithle, gan sefydlu cymuned newydd rhannu gweithle a helpu i ddod â phobl yn ôl i ganol ein tref. Dair blynedd yn ddiweddarach, rydym wedi tyfu’n rhy fawr i’r adeilad presennol ac mae mwy o bobl yn gweithio’n nes gartref yn ogystal â gofod rhannu gweithle yn agos at ble maent yn byw. Gwelsom gynnydd enfawr yn y diddordeb yn ein gofod gwaith.”
Bu Gwagle yn edrych am adeilad mwy gyda hanes cyfoethog yng nghanol y dref. Mae’r adeilad tri llawr 225 mlwydd oed, sydd mewn safle amlwg wrth y fynedfa ogleddol i ganol y dref, yn fwy nag ateb y gofynion ar gyfer Gwagle a’i ofod gwaith cynyddol. Bydd adfywio 43 Stryd Frogmore yn helpu i hybu’r Fenni i ymwelwyr a phobl sy’n mynd drwy’r dref.
Dywedodd Ashley Reed o Oakbridge Property: “Cafodd llawr cyntaf ac ail lawr yr adeilad gwych hwn ei ailwampio i safon modern ansawdd uchel, gan roi egni’n ôl i’r holl adeilad. gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Fynwy drwy gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, rydym wedi medru ailwampio’r gofod llawr gwag, gan helpu busnes lleol i ehangu, a chynorthwyo’r bwyty ar y llawr isaf i ehangu ei gynnig al fresco.”
Ychwanegodd Mark Hand, Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd yng Nghyngor Sir Fynwy: “Mae’r Cyngor yn hynod falch i gefnogi’r prosiect hwn i roi bywyd newydd yn ôl i’r adeilad hardd hwn yng nghanol tref y Fenni. Mae galw cynyddol am ofodau rhannu gweithle, sydd nid yn unig yn dod â phobl i ganol ein trefi ond hefyd yn gostwng yr angen i deithio i’r gwaith, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”