Roedd gan ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi arwyddocâd arbennig iawn yn y Fenni eleni. Treuliodd Eu Huchelderau Brenhinol, Dug a Duges Caergaint 1 Mawrth yn Sir Fynwy ar ymweliad yn anelu i roi sylw i bwysigrwydd cefnogi cynhyrchwyr lleol a rôl amaethyddiaeth o fewn economi Cymru.
Yn dilyn ymweliad i Fferm Pant ger y Fenni, cafodd y cwbl brenhinol groeso Cymreig cynnes wrth iddynt gyrraedd canol tref y Fenni. Roedd plant o Ysgol Gynradd Cantref a grŵp Dechrau’n Deg Cyngor Sir Fynwy yn aros amdanynt tu allan i adeilad hanesyddol neuadd y farchnad i gyfarch y cwpl brenhinol gyda gwenau, cân a baneri’r Ddraig Goch, gan ymuno gyda thorfeydd o bobl leol yn awyddus i gael cip o ymwelwyr arbennig y dydd a dymuno ‘Dydd Gŵyl Dewi hapus!’ iddynt. Cyflwynodd Sam a Lucy, disgyblion o Ysgol Gynradd Cantref, dusw o gennin Pedr a phice ar y maen i’r cwpl brenhinol, rhodd addas ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Tu mewn i Neuadd y Farchnad sy’n deillio o oes Victoria ac sydd yn cynnwys tua 24 stondin ar unrhyw amser, treuliodd Dug a Duges Caergrawnt amser yn cwrdd â rhai o’r cynhyrchwyr lleol ac yn clywed eu straeon drostynt eu hunain. Bu marchnad yn y Fenni ers yr oesoedd canol a bu yn ei safle presennol yn Neuadd y Dref ers cwblhau’r adeilad yn 1871. Mae’r farchnad yn ganolbwynt poblogaidd, gyda chynnyrch lleol ffres, anrhegion, nwyddau cartref a hyd yn oed bobydd preswyl sy’n gwneud pice ar y maen ar y safle. Bu’r farchnad yn rhan o ymgyrch siopa Lleol Cyngor Sir Fynwy a lansiwyd pan darodd pandemig Covid-19 yn 2020. Arhosodd y farchnad ar agor drwy gydol y pandemig – gyda mesurau diogel o ran Covid ar waith a phan oedd cyfyngiadau’n caniatáu – i ddal ati i ddod â chynnyrch lleol, ffres i siopwyr.
Dywedodd Peggy Romer, Rheolwr Marchnad y Fenni: “Bu’n gyfle gwych i hyrwyddo’r farchnad yn y gymuned leol ac ymhellach, a rhoi sylw i’r masnachwyr lleol gwych, eu cynnyrch a’u straeon.”
Cyfarfu’r Dug a’r Dduges gyda rhai o’r llu o fasnachwyr marchnad i glywed eu straeon. Dywedodd Carol Davies a Christine Hughes o Nuth’s Quality Fruit & Veg, a fu’n masnachu ym Marchnad y Fenni am 107 mlynedd: “Roedd yn wirioneddol hyfryd i’w gweld, fe wnaethant ofn o ble cawn ein cynnyrch. Ni allai ddim bod yn well na hyn, mae’n wirioneddol wedi rhoi’r Fenni ar y map.”
Bu Nicky Hurst o Country Fare yn masnachu yn y farchnad am 35 mlynedd: “Fe wnaeth y cwpl brenhinol ofyn i ni am ein cawsiau. Roedd gan y Dduges ddiddordeb neilltuol yn y cawsiau gafr gan eu bod newydd ymweld â fferm geifr. Holodd Dug Caergaint am gawsiau Cymreig a dywedodd beth oedd ei hoff gaws – Kaltbach! Bu’r ymweliad hwn yn wych i’r dref.”
Dywedodd Paul Matthews, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy: “Bu’n bleser gwirioneddol medru croesawu Eu Huchelderau Brenhinol i’r farchnad, sydd wrth galon y gymuned yma yn y Fenni. Mae pawb a fu’n gysylltiedig yn wirioneddol wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ategu neges Siopa Lleol yn lleol ac yn genedlaethol. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r holl rai bach o Ysgol Gynradd Cantref a Dechrau Deg a daeth eu cyfarchiad brwdfrydig â gwenau i wynebau’r cwpl brenhinol.”
Rhoddodd ymweliad y Dug a’r Dduges gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o’r sector ffermio yn ehangach yn ogystal â’r rhai a gyflogir o fewn y diwydiant ar draws y Deyrnas Unedig yn ogystal ag yng Nghymru, gan ennill gwell dealltwriaeth o sut mae’r sector amaethyddol yn sylfaen i gymaint o’r economi leol.
I fasnachwyr marchnad y Fenni roedd yn gyfle gwerthfawr i danlinellu pwysigrwydd siopa’n lleol a chefnogi busnesau annibynnol. I breswylwyr, ymwelwyr a busnesau fel ei gilydd, rhoddodd ymweliad Eu Huchelderau Brenhinol ddiwrnod o ddathlu a chyffro a gaiff ei gofio am flynyddoedd i ddod.