Skip to Main Content

Y Fenni yw’r dref ddiweddaraf yng Ngwent i weld Hyb Cymorth i Gyn-filwyr ar gael i holl bersonél blaenorol a phresennol y lluoedd arfog, gan roi cyngor, arweiniad a chymorth gyda rhai o heriau bywyd.

Lansiwyd Hyb Cymorth Cyn-filwyr Sir Fynwy ym mis Mawrth 2022, gyda’r nod o ddarparu cymorth ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gyn-aelodau ac aelodau presennol y lluoedd arfog. Nod yr Hyb yw grymuso cyn-filwyr, a’r rhai sy’n pontio o fywyd milwrol i fywyd sifilian, mewn integreiddio i gymunedau lleol. Cynlluniwyd Hyb Cymorth Cyn-filwyr Sir Fynwy i:

  • Ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth o’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael i aelodau presennol a chyn-aelodau y lluoedd arfog a’u teuluoedd yn eu cymuned leol.
  • Rhoi hyder, gwybodaeth a sgiliau i aelodau unigol a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog i gael mynediad i’r help maent ei angen, lle a phryd maent ei angen.
  • Cyfnerthu hunan-ddibyniaeth, hyder, hunan-dyb a hunan-rymuso ar ôl gadael y gwasanaethau a gwella iechyd a llesiant hirdymor cymuned cyn-aelodau’r lluoedd arfog
  • Bod yn fan lle mae cyn-filwyr yn teimlo eu bod yn perthyn
  • Cynnig cyfleoedd i gysylltu gyda’r gymuned leol a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

Bydd hefyd fynediad i hyfforddiant ar faterion tebyg i reoli straen, panig a phryder, ymdopi â meddyliau anodd ac ymwybyddiaeth ofalgar ar gael i gymuned y lluoedd arfog.

Dywedodd Lisa Rawlings, Swyddog Cydlynu Cyfamod Lluoedd Arfog Rhanbarthol: “Fel y Swyddog Lluoedd Arfog Rhanbarthol ar gyfer y pump awdurdod lleol yng Ngwent, ac yn gyn aelod o’r lluoedd arfog fy hunan, mae’n bwysig ehangu’r mynediad i wasanaethau a gwybodaeth ar gyfer y gymuned lluoedd arfog. Ar ôl agor hyb llwyddiannus yng Nghaerffili ym Mehefin 2021, fy nod yw cael Hyb ym mhob awdurdod lleol ar ddyddiau gwahanol o’r wythnos. Felly gallai cyn-filwr gael cymorth yng Ngwent ar unrhyw ddiwrnod.”

Cynhelir y sesiynau yng nghanol y Fenni ac maent yn rhwydd eu cyrraedd mewn car, ar y trên neu ar fws. Os ydych yn gyn-aelod o’r lluoedd arfog, gall Hyb Cymorth Cyn-filwyr Sir Fynwy roi cyngor, arweiniad a chymorth ar bynciau tebyg i dai, budd-daliadau, dyled ac iechyd a llesiant.

Yn yr un modd, os ydych yn bryderus am y dyfodol neu’n ei chael yn anodd addasu, gall siarad gyda chyn-filwyr eraill eich helpu ar eich taith. Bob dydd Llun rhwng 10am – 12pm gallwch ymuno â chyn-filwyr eraill yn Sir Fynwy yn Hyb y Fenni, Neuadd y Dref, NP7 5HD.

I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar dudalen gwefan lluoedd arfog cyngor Sir Fynwy: Y Lluoedd Arfog – Sir Fynwy