Mae pwysigrwydd barn a sylwadau pobl ifanc a phlant yn flaenllaw mewn Strategaeth Cyfranogiad newydd a lansir gan dîm Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy. Mae’r cyngor wedi ymrwymo i weithio i fod yn sir sy’n cefnogi pawb a rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd a llesiant gydol oes i blant. Yn unol â hyn, mae Gwasanaethau Plant Sir Fynwy yn gweithio i sicrhau y caiff ei holl waith, o waith unigol gyda phlant a phobl ifanc i adolygiadau o’r gwasanaethau y mae’n eu darparu a datblygiad gwasanaethau newydd, ei lywio’n briodol gan farn plant a phobl ifanc, ac yn seiliedig ar hawliau, yn gynhwysol, yn barchus ac yn ddiogel.
Dan y strategaeth newydd hon, mae cyfranogiad yn golygu gwrando ar blant a rhoi ystyriaeth lawn i’w sylwadau. Dylai pob plentyn cael eu cefnogi i fynegi eu barn yn rhydd; dylent gael eu clywed a hefyd wrando arnynt. Dylid cymryd eu sylwadau o ddifrif pan gymerir penderfyniadau neu weithredoedd sy’n effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar eu bywydau.
Yn ôl Swyddfa’r Comisiynydd Plant, mae Strategaeth Cyfranogiad Cyngor Sir Fynwy yn enghraifft ardderchog o sut mae gwasanaethau yn sefydlu egwyddor cyfranogiad i’w ffyrdd o weithio. Mae’n rhoi ymrwymiad cadarn i hawliau, cynlluniau i ymwreiddio barn plant ym mhob agwedd o Wasanaethau Plant, yn cynnwys cynllunio, polisïau, comisiynu ac adolygu. Mae hefyd yn anelu i fod yn gydweithiol, i blant gael eu gwerthfawrogi, eu parchu a bod mewn rheolaeth. Mae’n ystyried y gwahanol raddfeydd o gyfranogiad a’r ffyrdd niferus y gall plant gael eu cynnwys a gofyn iddynt am eu barn – dim ‘un maint yn gweddu i bawb’. Yn ychwanegol, mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd plant yn cael eu hysbysu ac yn gosod neges gref y dylai pob plentyn wybod sut y gall eu barn effeithio ar benderfyniadau am eu bywyd a’u gwasanaethau.
Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Dylai plant gael eu hannog i rannu eu barn, dymuniadau a theimladau’n agored a chael gwybodaeth a chefnogaeth briodol ar sut i gyflawni hyn. Mae Strategaeth Cyfranogiad Gwasanaethau Plant Sir Fynwy yn cymryd golwg wirioneddol ystyrlon ar sut y gallwn ymrwymo i hawliau a chyfranogiad plant a gweithio i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i gael eu lleisiau wedi eu clywed ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
“Yma yn Sir Fynwy anelwn roi’r plentyn/person ifanc wrth ganol popeth a wnaiff Gwasanaethau Plant. Mae’n rhaid i ni ddysgu gan blant a phobl ifanc am yr hyn sy’n bwysig iddynt, eu meddyliau, gobeithion, anghenion a’u barn am eu bywydau, y gwasanaethau a dderbyniant a’r rhwystrau y maent yn eu profi a defnyddio’r wybodaeth hon i wneud y penderfyniadau gorau a fedrwn ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy. Byddwn bob amser yn ymdrechu i wella’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn ar eu rhan.”
Gallwch ddarllen strategaeth Cyfranogiad Gwasanaethau Plant yma, sy’n hyrwyddo hawliau plant ac yn gosod neges glir y caiff plant eu cefnogi i rannu eu barn ar draws pob maes o wasanaeth.